Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Ddolen
Logo'r Ddolen Hanes - Y Royal Observer Corps
Mehefin 2004
Yr wyf am ddechrau gan ofyn cwestiwn i chwi bobi ardal Y Ddolen.

Heb gynnwys y lluoedd arfog, pa gyfraniad wnaeth bobl cefn gwlad i'r rhyfel? Yr wyf yn siŵr y byddai'r Home Guard yn y rhestr. Hefyd y Land Girls a'r War.Ag. Tybed a fyddai'r Royal Observer Corps yn y rhestr? Yn 1940 fe ddaeth yr awyrlu i benderfyniad i gael adran sifil i helpu RADAR trwy gadw llygaid barcud a chlust denau i roi gwybodaeth go fanwl am awyrennau y wlad yma neu'r gelyn. Felly tua 1940 fe adeiladwyd observation posts bob 10 milltir dros y wlad i gyd. Adeilad bach brics gyda thŵr bach un ochr oeddynt i gynnwys dau berson, dyn neu ferch, i fod ar ddyletswydd ynddynt bob awr o'r dydd a'r nos drwy gydol y rhyfel.

Yr oedd gwisg ganddynt yr un lliw â gwisg yr awyrlu, ac yr oeddynt yn cael ein talu gan y Weinyddiaeth Awyr - fel Cardis yr oedd hyn yn bwysig iawn. Fe adeiladwyd tri phost yn ardal Y Ddolen - Ponterwyd, Llanafan a Llanon. Mae corff adeilad Ponterwyd yn sefyll o hyd ar ochr y ffordd y tu uchaf i Ysgol Syr John Rhys. Yr oedd post ROC Llanafan ar dir Wenallt, ac yr oedd post Llanon ar y llechwedd uwchlaw'r pentref.

Tri pheth pwysig oedd yn rhaid i'r Observer eu gwneud (gyda llaw gwirfoddolwyr oeddynt). Os yn bosibl 'roedd yn rhaid nodi enw'r awyren, ei huchder, ac i ba gyfeiriad yr oedd hi'n mynd. Os nad oedd hi i'w gweld, rhaid oedd dibynnu ar ei sŵn i adnabod i ba gyfeiriad yr oedd yn teithio. Yna yr oedd yr wybodaeth yma yn cael ei danfon i'r pencadlys yng Nghaerfyrddin, ac yn ei blaen i bencadlys yr awyrlu. Trwy'r system ffôn byddai hyn yn digwydd. Ar ôl gorffen yr adeilad byddai dau berson yn cael eu dewis i ofalu am y post a chael pobl o'r ardal i gymryd diddordeb yn y fenter newydd ac i wneud rhestr y shifts a.y.y.b.

Fel bachgen a fagwyd yn ardal Ponterwyd yr adeg yma, dyma rai o'r aelodau a fu yno yn ystod y rhyfel. Yng ngofal yr adran, Alf Jenkins a'i frawd Ffred yn byw yn garej Tŷ'r Go, Dei Daniel, Bridge End, Wel Jones a'i ddwy ferch a'r mab Stanley, Ifor Kendal, Defi Jenkins y Siop, Ystumtuen, Jack Owen, Richard Edward, Tŷ Gwyn, Morgan Jones gynt o Flaen Myheren ac eraill ond heb anghofio'r cymeriad hoffus Isaac Williams, Penbont - cymeriad gwladol. Ac yn ôl yr hanes ni fu ef erioed yn siarad ar y ffôn â'r pencadlys, ond er hynny yr oedd yn aelod da pan ar ddyletswydd, yn enwedig ar noson dywyll neu ddiwrnod niwlog. Pan fyddai'n clywed awyren e.e. enghraifft o'r Gogledd - 'Mae hi yn dod mewn o Nantymoch', neu 'Mae hi'n mynd allan dros Erw Barfe', ac wedyn ei gyd-aelod yn trosglwyddo hyn yn swyddogol i'r pencadlys.

Dim ond dau berson y gallaf eu henwi o bost Llanafan sef Dan Isaac a Ned Davies. Nid oes gennyf ddim gwybodaeth am bost Llanon. Pan ddaeth y rhyfel i ben, fe ddaeth cyfnod cyntaf yr R.O.C. fel adran lawn amser hefyd i ben.

Ond tua 1947 pan nad oedd pethau'n rhy dda rhwng Rwsia a'r Gorllewin fe ailsefydlwyd y Royal Observer Corps (R.O.C.). Erbyn hyn aelodau rhan amser oeddynt. Dyma'r adeg yr ymunais i, ac fel llawer un arall mi fu^m yn aelod am bron i hanner can mlynedd. Ond fe aeth y sefyllfa ar y llwyfan ryngwladol o ddrwg i waeth. Ac fe ddaeth perygl o ryfel niwclear. Ac ar sail hyn, a heb fanylu, fe fyddai'r R.O.C. wedi bod yn gyfrifol am roi gwybodaeth i'r awdurdodau pe bai ymbelydredd yn eu hardal. 0 ganlyniad i hyn fe adeiladwyd byncer yn ein hardal ac aeth ein haelodau fel cwningod i ganol y ddaear.

Fel mater o ddiddordeb fe fu dau o swyddogion yr R.O.C. yn byw yn ardal Y Ddolen sef Ellis Morris, gynt o Abermagwr a Mr Weal, Sŵn y Nant, Llanrhystud.

Mewn amser fe chwalwyd y Berlin Wall a daeth hanes y Royal Observer Corps hefyd i ben.
Fe adeiladwyd byncer Ponterwyd o fewn ergyd carreg i'r lle ganwyd Syr John Rhys ger Aberceiro. A'r cwbl sydd i'w weld heddiw i'w manhole cadarn sydd â dau glo mawr arno, yng nghanol y brwyn a gwellt y bwla.

A gobeithio na fydd achos i'w ailagor byth eto.

Aneurin Morgan, Cwmrheidol


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý