Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Ddolen
Taith Cymdeithas Hanes
Hydref 2005
Edgar Morgan yn sôn am daith Cymdeithas Hanes Amaethyddiaeth Ceredigion i Scolton Manor a'r amgueddfa.

Yn ein cyfarfod blynyddol yn ystod mis Chwefror eleni penderfynwyd cael trip cyn diwedd yr haf i rywle yn ymwneud ag amaethyddiaeth a chefn gwlad, ond heb fod yn rhy bell.

Felly penderfynwyd cynnal y trip ar 8 Medi 2005, i Scolton Manor sydd ger Hwlffordd yn Sir Benfro. Cychwyn y daith o Benparcau am 12.00 o'r gloch, gan godi dros hanner cant o aelodau a ffrindiau yn Llanrhystud, Llanon ac Aberaeron. Gan fod aelodau'r Gymdeithas yn ymestyn o Dalybont yn y Gogledd i Ddihewyd yn y De.

Ar ôl gadael Aberaeron teithio ar hyd ffordd yr arfordir heibio Aberteifi ac ymlaen am Abergwaun. Troi i'r chwith yn Abergwaun er mwyn cael cip olwg ar harddwch Cwm Gwaun. Troi i'r dde wrth y Dafarn Newydd, ac yna dilyn y B4329 drwy bentref Tufon gan gyrraedd Parc Scolton wedi tri o'r gloch.

Ar ôl cyrraedd, cafwyd cyfle i fwynhau te prynhawn blasus ac iddo awyrgylch gwledig. Y cyfan wedi ei drefni ac ar y bwrdd yn ein disgwyl.

Wedi'r te cafwyd cyfle i gerdded oddi amgylch i weld Y T^y (Maenordy), y gerddi a'r amgueddfa. Scolton oedd cartref teulu'r Higgons am hir amser. Erbyn heddiw mae yn eiddo i'r Cyngor Sir ac wedi ei addasu i bortreadu'r ffordd o fyw ddechrau'r ganrif ddiwethaf. Mae'r lle yn llawn o hen drysorau gwerthfawr. Llawer o'r celfi ar fenthyg o Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan.

Cafwyd hefyd mawr fwynhad yn gweld yr hen stablau, gweithdy'r saer coed a hefyd gweithdy'r saer olwynion. Roedd yno hefyd efail y gof, casgliad o hen gerti a thrapiau ceffylau. Cafwyd amser i bendroni a sgwrsio am yr hyn a fu.

Gweld beinder a phladur, rhaca a molder, ffordson a ffergi bach, cert a strodur. Pob teclyn ac offer yn dwyn atgofion am yr hyn a fu. Oddi allan roedd 60 cyfer o dir a choedwig hynafol. Llwybrau addas ar gyfer amser hamdden a mwynhad. Yma hefyd mae cartref amgueddfa hen reilffordd Maenclochog ar cylch.

Erbyn hanner awr wedi pump roedd pawb yn barod i ddychwelyd i'r bws er mwyn manteisio ar gyfle arall i fwynhau harddwch Sir Benfro cyn cyrraedd Tafarn Sinc. Lle bendigedig i fwynhau pryd o fwyd blasus mewn awyrgylch henafol a chroesawgar. Rhwydd wedyn oedd mynd dros fynyddoedd y Preseli ac ymlaen am Aberteifi, Aberaeron ac yn ôl i ardal Aberystwyth cyn syrthio i gysgu.

Llwyddodd y Gymdeithas i gael tywyswr ar y bws, sef Glyndŵr Vaughan o Benbryn ger Aberteifi. Dyn sydd wedi treulio ei oes yn teithio Sir Benfro. Diddorol oedd i bawb gael ychydig o gefndir a gwybodaeth am nodweddion hanesyddol yr ardaloedd wrth i ni deithio drwyddynt. Ein diolch i Glyndŵr siaradwr diddorol ac i Gareth Evans, y gyrrwr medrus, ac i bawb oedd ar y bws am wneud y daith mor bleserus a chartrefol.

Nodyn byr i atgoffa pawb fod rhaglen y gaeaf yn cychwyn ar y 26ain Hydref 2005. am 8.00 yn Neuadd yr Eglwys Llanddeiniol. Cyfle gwych i wrando ar Huw Jones, Blaencaron a Huw Owen Tregaron, gydag Erwyd Howells yn gadeirydd y drafodaeth. Testun y drafodaeth fydd Bywyd ar y Mynydd. Cofiwch ddod, diflas o beth i'w gweld cadeiriau gwag!

Erthygl gan Edgar Morgan


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r Â鶹Éç yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý