Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Ddolen
Elfyn Henderson a Siwan Davies Gwirfoddoli yn Tanzania
Chwefror 2007
Ddwy flynedd yn ôl, penderfynodd Siwan a finnau ein bod am adael ein swyddi a'n bywyd yn Aberystwyth i deithio'r byd.

Roeddwn i'n awyddus iawn i ymgymryd a gwaith gwirfoddol ers sawl blwyddyn, ac felly roedd yn gam naturiol i ymgorffori hyn i'n cynlluniau teithio ehangach.

Dechreuodd ein taith ym mis Ebrill 2006, ac ar ôl treulio 4 mis yn Ne America cyrhaeddon ni Tanzania ar ddechrau mis Awst. Ein cartref am y misoedd canlynol oedd pentref bach o'r enw Rau ar gyrion Moshi, un o brif drefi gogledd Tanzania ar odre Kilimanjaro. Roedd Siwan a finnau yn awyddus iawn i ddefnyddio ein profiad a'n sgiliau o'n swyddi blaenorol fel rheolwyr yn y maes datblygu economaidd, ac felly fe'n penodwyd i weithio â KIWODEA (grŵp sy'n darparu cymorth datblygu busnes yn benodol i'r bobl dlotaf yn y gymuned gan gynnwys gweddwon, rhieni sengl a rhieni maeth).

Yn Tanzania, fel cymaint o wledydd eraill yn y Trydydd Byd, mae rhedeg busnes yn realiti anochel yn hytrach na bod yn weithred o ddewis. `Roedd y mwyafrif llethol o'r unigolion buom yn cydweithio â hwy yn eithriadol o dlawd ac yn anllythrennog - rhai heb dderbyn unrhyw addysg o gwbl. Un yn unig o'r perchnogion oedd yn cadw cofnodion ariannol o'r busnes, ac felly nid oedd modd i'r gweddill wybod p'un ai roedd y busnes yn gwneud e1w neu golled - sefyllfa a gymhlethir ymhellach gan y ffaith eu bod yn byw o'r llaw i'r genau.

Er mwyn ceisio adfer y sefyllfa a datblygu sgiliau busnes y perchnogion buom yn cynnal clinigau busnes a oedd yn rhoi cyfle i unigolion drafod eu problemau busnes ac i ni rannu cyngor ac argymhellion. At hyn, buom yn cynnal gweithdai sgiliau busnes ac yn cydweithio â swyddogion KIWODEA i sefydlu system benthyciadau micro. Ein nod trwy gyfrwng y gweithgareddau yma oedd cynyddu incwm y busnesau unigol ac i wneud y busnesau a'r grŵp yn fwy cynaliadwy.

Y mae'r dasg o greu cymunedau, busnesau ac economi cynaliadwy yn Tanzania yn dasg enfawr a fydd yn cymryd cryn amser. Cyn dechrau ar ein gwaith, 'doedd yr un ohonon ni dan yr argraff y byddem yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr mewn cyfnod mor fyr. Serch hyn, mae pethau bach yn gallu gwneud gwahaniaeth i fywydau a bywoliaeth unigolion.

Un enghraifft nodedig o hyn yw hanes dwy ddynes Fwslemaidd, sef Rehema Mohamed a Sofia Ali, sydd ill dwy yn pobi gwahanol fathau o fara a'u gwerthu i siopau lleol. Ar ôl mynychu un o'n gweithdai ar reolaeth ariannol, roedd y ddwy wedi'u hysbrydoli i ddechrau cadw cofnodion ariannol ar gyfer eu busnes. Daethant i'r clinig busnes yr wythnos ganlynol gyda llyfrau newydd sbon yn eu dwylo. Gan fod y ddwy ohonynt yn anllythrennog, roedd eu plant wedi copïo'r tabl cyfrifeg o'r gweithdy i dudalennau'r llyfrau ac wedi cynorthwyo'r ddwy fam i nodi eu treuliau a'u hincwm ar gyfer yr wythnos flaenorol.

Roedd hyn wedi ein galluogi ni i adnabod fod y ddwy ohonynt yn gwneud colled ar rai eitemau heb sylweddoli hynny, a fod rhai siopwyr yn talu pris gwahanol iddynt am yr un cynnyrch ar wahanol ddiwrnodau. Canlyniad hyn oedd ein bod yn gallu cynghori Rehema a Sofia ar ffyrdd o gynyddu eu hincwm, hyfywedd eu cynnyrch, gwella effeithlonrwydd yn ogystal â datblygu eu hyder i ddelio â siopwyr.

Enghraifft arall yw hanes Nicholaus Deus, gŵr gweddw a 9 o blant sy'n gweithio fel teiliwr. 'Roedd peiriant gwnïo Nicholaus yn hen ac o ansawdd gwael a olygai nad oedd y dillad a gynhyrchai o safon mor uchel â rhai o'i gystadleuwyr. O'r herwydd, nid oedd yn gallu codi pris mor uchel am ei gynnyrch. Er mwyn ennill pris uwch am ei gynnyrch 'roedd angen arno beiriant gwnïo newydd a fyddai'n cynhyrchu dillad o safon uwch. Roedd Nicholaus eisoes wedi ceisio dechrau cynilo arian i brynu peiriant newydd, fodd bynnag, pan aeth un o'i blant yn sâl iawn bu rhaid iddo ddefnyddio'r cynilion i dalu costau meddygol ei fab. Yn ddealladwy, 'roedd yn teimlo'n gwbl anobeithiol ac yn ddihyder.

Lluniwyd cynllun realistig iddo godi ei brisiau a chynilo'r swm angenrheidiol dros gyfnod o 7 mis. Er gwaethaf ei awydd i gynilo arian 'roedd yn amharod a dihyder iawn i godi ei brisiau gan ei fod yn ofni colli ei gwsmeriaeth yn llwyr. 'Roedd Siwan a finnau'n poeni'n fawr na fyddai Nicholaus yn gallu gwireddu ei ddymuniad i brynu peiriant newydd - peiriant a fyddai'n gallu cynyddu incwm ei deulu o 50%. Fodd bynnag, chwe wythnos yn ddiweddarach daeth Nicholaus nôl i'n gweld yn y clinig yn wên o glust i glust am ei fod wedi codi ei brisiau ac wedi gallu dechrau cynilo arian yn unol â'r cynllun a luniwyd.

Efallai bod llunio tabl cyfrifeg a chael yr hyder i godi prisiau yn ymddangos fel pethau cymharol fach a di-nod i ni ond maen nhw'n rhwystrau anferth i bobl fel Rehema. Sofia a Nicholaus. Bod yn dyst i bobl yn goresgyn y math yma o rwystrau wnaeth ein hymdrechion ni mor werth chweil ac a roddodd foddhad anferth i ni.

Elfyn Henderson


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r Â鶹Éç yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý