Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Ddolen
Helen Davies yn chwifio baner Cymru gyda staff ysgol yn Lesotho. O Lanfihangel i Lesotho
Mawrth 2010
Helen Davies sy'n adrodd hanes ei ymweliad ag ysgol yn Lesotho

Cefais gyfle i ymweld a dysgu yn Ysgol Kenya, ein hysgol gefaill yn Lesotho, yn ystod gwyliau hanner tymor.

Bu'n gyfle gwych i gael profiad o wlad rydym yn astudio yn yr ysgol er mwyn trosglwyddo'r wybodaeth i'm disgyblion.

O'm profiad personol i cwrddais a phobl groesawgar a chyfeillgar tu hwnt.

Roedd pawb yn barod iawn i helpu ei gilydd ac yn falch iawn i'm croesawu i'w plith. Rhaid cyfaddef nad oedd Lesotho fel y disgwyliais, roedd yno ddigonedd o wyrddni, yn annhebyg i'r pecyn ddefnyddiwn yn y dosbarth.

Serch hynny, roedd yn wlad dlawd iawn gydag amrywiaeth eang iawn o gartrefi ac amodau byw.

Roedd yno ddisgyblion oedd yn amrywio o ran oedran o 7 mlwydd oed i 18 oed o fewn y system cynradd, a'r rheini yn gymysg drwyddi draw yn ôl eu gallu.

Bum yn dysgu am gyfnodau ym mhob dosbarth a chefais gyfle i brofi'r system addysg sy'n bodoli yn y wlad.

Erbyn heddiw, mae'n gyfraith bod rhaid i pob plentyn fynychu'r ysgol ac mae eu system yn datblygu'n raddol.

Ni gychwynnodd rhai o'r disgyblion yn yr ysgol hyd nes oeddynt tua 14 yn y gorffennol, and trwy gynnig cinio am ddim i'r disgyblion mae hyn yn atynnu'r rhieni i ddanfon eu plant i'r ysgol er mwyn sicrhau eu bod yn cael o leia un pryd o fwyd yn ddyddiol.

Bum yn yr eglwys, yr ysgol, ysgol gyfagos, y swyddfa addysg ac ar daith o gwmpas y wlad i ymweld a nifer o olygfeydd a mannau o ddiddordeb a rhaid dweud bod pawb gwrddais a nhw yn ystod fy ymweliad yn gyfeillgar a pharod iawn i rannu eu profiadau a chroesawu ni mewn i'w cartrefi.

Bydd ein disgyblion nawr yn ysgrifennu llythyron i blant Ysgol Kenya er mwyn rhannu profiadau, gwella dealltwriaeth o wlad a diwylliant arall a gwella sgiliau Saesneg a Daearyddiaeth yr holl ddisgyblion yn y ddwy ysgol.

Edrychwn ymlaen at dymor yr Hydref pan gawn gyfle i groesawu Lucia Monayanne, fy ngwesteiwraig am yr wythnos yn of i'n hysgol ni.

Bydd hwn yn gyfle gwych iddi brofi bywyd cefn gwlad Cymru a derbyn yr un croeso cynnes a gefais i draw yn Lesotho gan ddysgu mwy am ei phobi a'i diwylliant.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý