Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Ddolen
Brithwaith Brithwaith y Gymuned
Mai 2004
Yn ystod 2003 tra roedd yr hen ysgol yn cael ei adnewyddu i fod yn ganolfan, penderfynodd chwech o wragedd yr ardal a oedd yn digwydd bod yn aelodau o sefydliad y merched gynnig am arian oddi wrth gynllun gwobrau'r mileniwm - cynllun ariannu Chi a'r Gymuned.

Wedi bod yn llwyddiannus yn eu cais cafwyd cyfarfod cyhoeddus yn y ganolfan i ddechrau ar y gwaith o gynllunio'r Brithwaith dan arweinyddiaeth Pod Clare, arlunydd proffesiynol a oedd wedi cael ei chyflogi i arwain yn y fenter. Mi wnaeth gynllunio'r placs o ddefnydd archifal ac mae pob un wedi ei baentio gan wahanol berson.

Cymerwyd rhan gan 150 o bobl y gymuned o bob oed dros gyfnod o 6 mis yn ystod 2003-04. Penderfynwyd beth i'w gynnwys, pa liwiau i'w defnyddio, ble yw roi yn ddemocrataidd gyda Pod Clare yn troi syniadau yn ffaith. Gydag amynedd, anogodd pawb, yr ifanc a'r hyn i drio sgiliau newydd.

Rhannwyd y brithwaith i bum plac. Yn y plac cyntaf cafwyd hanes cynnar Llanilar sef caerau'r oes haearn, pen o garreg, cwpan y cymun o Sweden, carreg esgyn Harri'r VII, carreg Geltaidd, Wrn yr oes Efydd ac Eglwys Ilar Sant.

Mae'r ail blac yn cynnwys hanes mwy diweddar sef Efail y gof, Plas Castle Hill, Gorsaf Rheilffordd, Capel Carmel, Ar y ffordd fawr - ddoe, Gwesty'r dirwest a Gwesty'r Falcon.

Yn y canol ceir y trydydd plac o fap y pentref sy'n cynnwys dwy linell gwpled, 'A phedair ffordd yn mynd o'r fan i bedwar ban Byd'.

Yn y 4ydd plac gwelir hanes Treftadaeth Wledig, Sioe Llanilar, Pysgota, Treialon Cŵn Defaid, Hela, Diwrnod Dyrnu ar fferm Llidiardau, Saethu a Bywyd Gwyllt.

Yn y pumed plac gwelir hanes y cyfnod modern. Y Ganolfan lechyd, Carnifal, Stadau Tai, Canolfan yr Hen Ysgol, Y bont siglo, rasys hwyaid ac awyrennau, pentref glandecaf Sir Aberteifi, clwb pêl droed.

Nid yw'r gwaith terfynol yn hawlio i fod yn hanes cyflawn o Lanilar gan fod llawer o bethau wedi ein gadael allan. Mae gwneud y gwaith yma'n rhoi hwyl i lawer o bobl ac fe saif am lawer o flynyddoedd fel coffâd i gymuned Llanilar yn y mileniwm newydd.

Ar y 17eg o Ebrill cafwyd cyfarfod i ddathlu gorffen y brithwaith. Daeth Pod Claire yr arlunydd a Monica Mahoney, Swyddog Cynllun Gwobrau Chi a'r Gymuned, ynghyd â nifer o bobl yr ardal a oedd yn perthyn i wahanol gymdeithasau a gymerodd rhan. Cafwyd ychydig eiriau gan y ddwy uchod yn llongyfarch y gymuned am y gwaith roeddent wedi ei gyflawni.

Hefyd bu Shirley Ferguson a Marilyn Coleman yn siarad ar ran y chwe gwraig oedd wedi gwneud y prosiect yn bosibl. Cafwyd ychydig o eiriau gan Mr Mike Francis, cadeirydd pwyllgor y neuadd. Cyflwynwyd blodau i Pod Clare gan Lucy Shaw.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý