Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Ddolen
Llun o heol gwledig yn Awstralia. Clecs o'r Clos
Chwefror 2005
William Lloyd yn sôn am ei daith i Awstralia y llynedd ar ôl iddo gael ei wahodd gan Gymdeithas Merlod a Chobiau Cymreig rhanbarth New South Wales.

"Yn gynnar yn 2004 derbyniais wahoddiad gan Gymdeithas Merlod a Chobiau Cymreig rhanbarth New South Wales yn Awstralia i feirniadu dosbarthiadau Adrannau Cymreig yn eu sioe yn Sydney Hydref 2004.

Hedfan allan o Heathrow, ar ddydd Mercher y 13eg o Hydref, cyrraedd Tokyo, Japan tair-arddeg o oriau yn ddiweddarach, sefyll yno am adeg ac yna cyrraedd Sydney fore dydd Gwener ar ôl siwrnai o 11eg awr.

Bu'n rhaid cymeryd ychydig o seibiant ar ôl cyrraedd gan fod y sioe fore trannoeth, y beirniadu yn dechrau am 8 bore Sadwrn. Cynhaliwyd y Sioe ar faes equestrian y gemau Olympaidd, safle gwych o safon uchel iawn.

Cychwyn beirniadu gyda adran y Merlod Mynydd, syndod o weld safon uchel yr adran yma, a rhifau i fyny i ryw 30 ym mhob dosbarth. Credaf yn wir byddai mwy na hanner y merlod yn dal eu tir yn Sioe Frenhinol Cymru. Y mae'r un peth yn wir am yr adran B a C.

Mae peth ffordd i fynd cyn cyrraedd yr un safon yn yr Adran y Cobyn Cymreig, ond mae'r diddordeb yn gryf ac yn datblygu ar y llwybrau cywir. Erbyn wyth o'r gloch yn nos daeth barnu'r adrannau Cymreig i ben pan gipiodd y march Mynydd Osbrey Tallyho y bencampwriaeth. Diwedd arbennig i ddiwrnod bythgofiadwy

Cafwyd penwythnos pleserus yn Sydney yn dilyn y sioe, cwrdd a llu o bobl newydd a'r un diddordeb. Profodd y pythefnos nesaf yn brofiad heb ei ail wrth ymweld a theithio i ardaloedd arfordir dwyrain Awstralia. Y dydd Llun canlynol aethom ar daith i'r Blue Mountains, diwrnod oer, cymylog a niwlog sy'n anarferol iawn yn Awstralia. Ond cyn gadael roeddwn i brofi tymheredd o 32c.

Wrth deithio a cherdded o amgylch Sydney - daeth y tÅ· Opera, y Bont enwog a thraeth Bondi i'n cwrdd, a'r cwbl o fewn awyrgylch arbennig. Roedd cael pryd o fwyd gyda'r nos ym mwyty Doyles', ac edrych allan ar yr harbwr a'r tÅ· opera, yn olygfa fydd yn sefyll yn y cof.

Hedfan i Brisbane yn yr ail wythnos a sefyll gyda ffrindiau wrth ymyl Toowmba, dinas fwyaf mewndirol Awstralia, hefyd ymweld a'r ysgol lle y derbyniodd Geraint Jones y cricedwr Cymreig ei addysg. Yma yn rhanbarth Queensland daethom yn agosach i'r diwydiant amaeth, yr un stori yn Awstralia ag yma yng Nghymru, gwasgfa ar brisiau a phobl ifainc yn cael eu gorfodi i adael y diwydiant oherwydd yr amgylchiadau.

Cawsom ymweld a fferm grawnfwyd o 2000 o aceri, yn cael ei ffermio gan ddau frawd, llynnoedd dir o 50 acer ar gyfer dyfrhau y tir a hanner y dŵr yn cael ei anweddu gan wres yr haul. Ond wedi dweud hyn mae'r tir o safon uchel, er bod prinder y dŵr yn amlwg iawn.

Wrth deithio o amgylch roedd yn wahanol iawn i ardaloedd Cymru, ychydig iawn o laswellt gwyrdd a llai fyth o anifeiliaid i weld ar y tir. Mae'r ffermwyr yn magu y gwartheg cig i unrhyw oed i'w gwerthu fel gwartheg stôr i gael eu tewhau mewn canolfannau, bum yn ymweld ag un canolfan a oedd yn tewhau tua tri deg mil o wartheg!

Roedd y ffermwr ar y fferm laeth y buom arni newydd symud o Kilcoy wrth ochr y môr lle oedd Tics yn poeni eu wartheg. Roedd ei ardal newydd yn llawer mwy sych ac oedd yn cael tipyn o drafferth i addasu i'r amgylchedd. Tri chant a hanner o wartheg godro a heb silwair na phorfa ac yn disgwyl yn eiddgar am law! Costiodd y parlwr godro newydd $150,000, ac mae pris y llaeth yn ddigon tebyg i'r hyn y cawn ni yma ym Mhrydain.

Pe bawn yn dymuno ffermio yn Awstralia, credaf mai'r cam cyntaf a'r doethaf byddai dod i adnabod y diwydiant a chael profiad ohono. Mae'r tirwedd, y tywydd a phob dim sy'n ymwneud a'r ynys enfawr ar raddfa gymaint yn fwy na'r hyn sy'n arferol i ni.

Nid wyf yn synnu fod cymaint o bobl ifainc am ymweld a theithio Awstralia, mae yno ddigon o le, rhyddid a chyfle i ddatblygu cymeriad yn ogystal â dawn bersonol os gellir derbyn y gwahanol batrwm o fyw, mae y wlad a'i phobl yn gyfeillgar tu hwnt. Ar ol derbyn y newid mewn patrwm o fyw ni chredaf y byddai'n anodd nac yn broblem i lwyddo yno.

O'r profid saif Sydney, Toowmba, mor glas arfordir y dwyrain ac absenoldeb caeau gwyrdd yn amlwg yn y cof, ond er yr holl a welsom ni a'r profiadau, y siwrnai o Gymru i Awstralia oedd fwyaf syfrdanol."


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r Â鶹Éç yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý