Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Ddolen
Llun o'r sioe Sioe Llanilar - 'Y Ganrif Gyntaf'
Gorffennaf 04
Rydym ar drothwy carreg filltir hanesyddol pan gwelwn ein Sioe yn gant oed eleni.


Mae'r paratoadau wedi bod yn mynd ymlaen ers tipyn ac mae aelodau'r pwyllgor yn ddiolchgar am gefnogaeth y cyhoedd. Felly gallwn edrych ymlaen am Sioe o'r safon arferol a gobeithio gweld arddangoswyr yn fwy niferus er nid oes eisiau achwyn byth ar y gefnogaeth yn Llanilar.

I ddechrau mae lleoliad y Sioe yn y cae gorau yng Ngheredigion - popeth yn gyfleus a digon o le gan ein bod bellach wedi lledaenu ein sefyllfa i ddau gae.

Mae yna groeso mawr i arddangoswyr hen beiriannau, tractorau a cheir. Mae Glyn a Wyre James wedi ein cefnogi dros y blynyddoedd ond braf fyddai gweld eraill yn eu cefnogi nhw.

Rwy siŵr bydd lawer yn edrych yn ôl ar yr hen amser gynt ac i oes y ceffyl. Priodol yw gweld dosbarth i'r ceffylau gwedd eleni gyda Trefor Evans, Brongenau, gŵr profiadol o'r ardal, yn barnu. Sir Aberteifi yw cartref y Cobiau Cymraeg a braf yw cyhoeddi bod Cymdeithas y Merlod a'r Cobiau Cymreig yn cydnabod pwysigrwydd y dathliad trwy iddynt gytuno i ni gael Sioe Fedal Arian - diolch yn fawr iddynt.

Mae y bythol wyrdd Dai Llanilar yn mynd i fod yn eithriadol o brysur. Mae'n barnu y gwartheg duon a hefyd yn cynhyrchu rhaglen ar gyfer Cefn Gwlad. Os nad yw hynny yn ddigon mae Dai druan yn cyflwyno noson o ganu gwlad gan John ac Alun ym mhabell y Sioe ar ôl gorffen gweithgareddau'r dydd.

Ynghlwm a'r dathlu rydym yn trefnu arddangosfa yn y Ganolfan Gymunedol yr Hen Ysgol. Mae croeso i bawb alw mewn i gael braslun o'r dyddiau a fu. Mae'r ganolfan yn gyfleus iawn i gae'r Sioe. Byddwn ar agor dydd Sadwrn a'r Sul!

I goroni'r cyfan mae'r Parchedigion Robert Townsend a Nicholas Bee yn trefnu 'Caniadaeth y Cysegr' yn yr Eglwys ar y nos Sul. Dewisir yr emynau gan bobl leol a fu yn gysylltiedig efo'r Sioe. Ar ôl y canu, paned o goffi a bisgedi yn y ganolfan a chyfle unwaith yn rhagor i weld yr arddangosfa.

I Lanilar dewch yn llu, ac ar ôl mynd adref darllenwch lyfr y canmlwyddiant 'Y Ganrif Gyntaf' yn eich cadair esmwyth.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý