Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Ddolen
Ailgylchu Y wlad a'i phobol
Tachwedd 2004
Mae mwy a mwy o bwyslais yn ystod y blynyddoedd diwethaf yma ar ddulliau organig o gynhyrchu bwyd. Blwyddun nesaf bydd newid chwyldroadol yn y modd y cefnogi'r ffermwyr a chefn gwlad.
Newid sylfaenol oddi wrth y ffermio dwys a orfodwyd ac a gynhaliwyd oddi ar 1939. Bydd llawer mwy o sylw ac o barch i'r tir a'r amgylchedd.

Llygredd yw gofid llawer iawn o arweinwyr call y byd. Fe ddewiswyd sawl teulu ym Mhrydain i roi gwaed ar gyfer profion. Y diben oedd darganfod a oedd yna gemegau niweidiol yn y gwaed. Bu teulu o Lanfair Caerheinionyn rhan o'r archwiliad. Y canlyniad syfrdanol a brawychus oedd bod yna nifer fawr o gemegau peryglus ymhob un o dair cenhedlaeth y teulu. Syndod gan fod rhai o'r cemegau wedi eu gwahardd rhag cael eu defnyddio ers blynyddoedd.

Mae yna gemegau niweidiol yn ein bwyd, diodydd, ein dillad, dillad teganau a chewynnau plant ac yn llawer o'r offer a'r celfi sydd yn ein cartrefi, a beth am y nwy radon? Mae ein dull cyfoes o fyw yn hynod rwydd, cyfforddys a diymdrech. Mae'r cyfnod syml o fyw, yn cerdded, trin yr ardd, cael llaeth mewn potel, cadw'r ieir a mochyn, trwsio dillad ac atgyweirio offer a pheiriannau wedi mynd. Mae'r anogaeth i 'gadw dy afraid erbyn dy raid' wedi darfod hefyd. 'Disposable' yw popeth - i'r bin a'r sgip ag e! Mae cynnydd aruthrol yn y swm o wastraff neu sbwriel a gynhyrchir. Fe amcamgyfrifir fod yna 23 miliwn tunnell yn flynyddol yng Nghymru sydd yn costio £300 miliwn i'w symud a chael gwared ohono.

Mae bron pob tomen dre a hen chwarel yn ein gwlad wedi llanw. Mae'r sbwriel o Geredigion erbyn hyn yn mynd allan o'r sir. Mae'r rhan fwyaf o Siroedd Cymru yn anfon sbwriel dros y ffin i Loegr. Rwyf yn cael fy nhemptio i ymhelaethu fan hyn!

Mae tipyn o ymdrech ac o drefnu i ailgylchu gwastraff. Gellir rhoi ail fywyd fel petai yn wydr, papur, dur, plastig a gwneud compost o dyfiant naturiol. Eisioes mae cynnydd nifer y bobl sydd yn cario i C.R.A.F.T yn Aberystwyth ac i'r Ganolfan Y Cyngor yn Glanyrafon, Llanbadarn. Gosodwyd biniau pwrpasol mewn pentrefi. Mae Cyngor Sir Ceredigion a'r Cylch yn cynllunio fel bo pob cartref yn cael bagiau neu focsys ar gyfer pob dosbarth o wastraff cyn bo hir.

Mae ffermwyr wedi bod yn rhan o ailgylchu ers blynyddoedd, mater o reidrwydd ecenomaidd i raddau. Pyst teleffon i ffensio, reiliau tren yn byst adeiladau, 'sleepers' rheilffyrdd yn byst ac yn bontydd, 'crash barriers' i wneud llociau a theiars ceir i orchuddio pydewau silwair. Mae hen beiriannau yn mynd i sgrap i'w oddi i gynhyrchu dur. Mae Gwyn y Garddwr gyda help Ieuan Parry wedi cael hanes Sydney Thomas oedd a'i deulu o Tyngraig, y gwr a welodd bosibiliadau slag fel gwrtaith i'r tir. Mae slag yn wastraff o'r broses o gynhyrchu dur. Mae'r rhan fwyaf o'r gwrteithiau yn dod i'r ffarm heddi mewn cydau hanner tunnell o ddefnydd cryf iawn, ac ar ôl eu gwagu yn cael eu llosgi. Yn hytrach na'u hagor gyda chyllell mi fyddai'n ddigon hawdd eu gwneud gyda 'drws' bach yn eu gwaelod i ollwng y cynnwys. Yr ystyraeth pennaf yw, a yw talu'r ffordd i'w danfon yn ôl i'w hailddefnyddio? Bydd ystyriaethau amgylcheddol yn dod yn fwy pwysig o hyn ymlaen. Mae'r llygru a dulliau o leihau y mynydd mawr o wastraff yn broblem. Mae yn ddydd o brysur bwyso. Mae'r eliffant wrth y drws, chwedl John Morris arall!

"Not in my back yard". Nid oes neb yn gwahodd sipsiwn, tomen, llosgydd na lle i adfer caethion cyffuriau i ddod yn agos.

Gallwn deimlo yn ddiymadferth ac euog ynglyn â'r broblem. Dafnau bach o ddyfroedd sydd yn gwneud môr. Darnau bach o sbwriel sydd yn gwneud mynydd mawr o wastraff. Rwyf yn cofio Aelwyn Jones Tanybryn yn casglu at ail-doi Eglwys Llangwyryfon ac yn dweud wrthyf i, 'Cyfranna fel y byddi yn medru dweud bob tro y gweli di'r Eglwys, mae slaten neu ddwy gen i ar honna!" Dyna'r athroniaeth hefyd i wneud twll y mynydd mawr.

Mae gwledydd y Gorllewin a Japan yn byw yn afradlon. Pedwar y cant o boblogaeth y byd sydd yn byw yn Unol Daleithiau America ac maent yn defnyddio chwarter o adnoddau'r ddaear. Mae yn ddiflas i feddwl bod gan y wlad fawr hon Arlywydd anghyfrifol a chyfyng ei grebwyll a'i weledigaeth, ac yn methu deall agwedd y byd tuag at America. Mae gwead bechgyn yn llifo yn Irac er mwyn olew i gynnal y dull o fyw Americanaidd.

Bu cenhedlaeth mawr China, Affrica, India, De America yn wrthrych tosturi ein hemynwyr. Mae trigolion y gwledydd hyn yn datblygu i fyw yn fwy dinesig ac yn gadael eu beics a'r ricsaw a bydd eu defnydd adnoddau naturiol y blaned yn fwy nag a ellir gynnal.

Pan oeddwn yn Ysgol Ardwyn roedd Mr Richards yn athro ffiseg yn ein sicrhau nad oedd dim yn mynd ar goll, dim ond newid ei natur. Mae pethau yn rhydu, pydru, llosgi ac yn cael eu bwyta.

Mae deddfwriaeth newydd yn dod i rym y mis hwn. Bydd yn rhaid i ffermwyr anfon pob anifail sydd wedi trigo (marw) i ffwrdd i'w losgi. Dim claddu yn y ddaear mwy. A yw hyn yn gwneud synnwyr amgylcheddol? Y dilyniant rhesymegol yw gwahardd claddu pobol.

Yn ôl gwasanaeth claddu yr Eglwys - 'nyni oll a newidir'. Yn ei gân y Dychwel mae I.D Hooson am i'w gorff 'fynd i enau glan y tân' yn hytrach na'i gladdu ond eto am i'w lwch gael ei wasgar fel bod 'y pridd i'r pridd, â'r Ysbryd fry i dy ei Dad'.

Mae J.M Edwards, llanrhystud yn dweud
'Fe fyn y ddaear ati ai hyn,
Yn llwch holl rym cyhyrog dyn'
'Disposable' yw pawb a phopeth! A'r cyfan yn ailgylchadwy. Yn ein byw mae'n werth ystyried y dyfyniad 'We should all live more simply so that others may simply live'.
Mae mynyddoedd yn her i'w dringo ond ynglyn â'r mynydd sbwriel yr her yw ei chwalu!
J.R. Morris


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý