Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Ddolen
Un o'r adeiladau yn Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan Taith i Sain Ffagan
Hydref 2007
Cymdeithas Hanes Amaethyddiaeth Ceredigion ar daith arbennig i Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan yng Nghaerdydd.

Yn ystod mis Medi cawsom daith hyfryd a chysurus i Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan. Un o berlau mwyaf gwerthfawr Cymru. Rhan o etifeddiaeth pob Cymro. Dyma un o amgueddfeydd awyr agored mwyaf adnabyddus y byd, ac atyniad ymwelwyr mwyaf poblogaidd y wlad. Mae'r Amgueddfa'n adrodd hanes y Cymry- eu bywydau, eu gwaith a'u horiau hamdden. Mae Sain Ffagan yn rhoi cipolwg ar holl gyfoeth ac amrywiaeth diwylliant Cymru ac yn rhoi cyfle i ni fel ymwelwyr i drin a thrafod y gorffennol drwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae dros 40 o adeiladau o bob rhan o Gymru wedi cael eu symud yn ofalus a'u hailgodi ar y safle sydd yn ymestyn i dros 100 erw. Gwelwn o fewn y terfynau goedwigoedd enfawr, gerddi trwsiadus a llwybrau diogel i deuluoedd gerdded ac ymlacio. Eglwys Teilo SantYmhlith yr adeiladau mae ysgol fechan o Oes Fictoria, capel gwledig o Drefach, Pentref Celtaidd, Melin Lif a Melin Eithin. Cawsom hefyd y pleser o weld yr adeilad mwyaf diweddar sydd yn cael ei adeiladu, sef Eglwys Ganoloesol San Teilo o Landeilo Talybont ger Llanddeusant. Cafwyd cyfle unigryw i weld y gwaith adeiladu'n datblygu. Erbyn hyn mae'r gampwaith bron â chael ei chwblhau ar ol cyfnod o ddeng mlynedd yn y gwneuthur.
  • Cliciwch i ddarllen fwy am Eglwys Teilo Sant.

    Oddi allan gwelwyd bridiau o anifeiliaid brodorol yn pori, ac mae dulliau ffermio traddodiadol yn rhan bwysig o fywyd beunyddiol yr Amgueddfa. Ond wrth wrando ar y siarad yn ystod y daith adref rhaid cyfaddef mai'r ddau fochyn fu yn gyfrifol am ennill serch rhai o'r gwragedd.

    Oddi fewn i'r prif adeilad ac yn arbennig yn yr orielau cafwyd cyfle gwych i drin a thrafod hen bethau sydd erbyn heddiw wedi mynd allan o ffasiwn ym myd amaethyddiaeth. Y dwylo erbyn heddiw wedi hen feddalu. Dim llawer o hiraeth ar ol y cryman, y bilwg, y fuddai na'r rhaca bach. Erbyn heddiw mae sedd y tractor wedi ei haddasu i fod yn swyddfa gyfforddus i'r gweithiwr, lle sydd yn cynnwys cyfrifiadur, ffon symudol a gwres i ateb y gofyn.

    Cymdeithas Hanes Amaethyddiaeth Ceredigion yn Sain Ffagan, Medi 20, 2007.Pan gyrhaeddodd pump o'r gloch a'r drysau'n cau, ni bobol gogledd Ceredigion oedd y diwethaf i adael yr Amgueddfa. Yna troi am adref gan aros yng Ngwesty'r Porth Llandysul, i fwynhau swper parod wrth fodd pawb. Diwrnod i'w gofio a'i drysori.

    Efallai fod rhai aelodau o'r Gymdeithas heb dderbyn rhaglen Y Gaeaf. Felly cofiwch fod ein cyfarfod nesaf ar 31 Hydref yn Neuadd yr Eglwys, Llanddeiniol, am 8 o'r gloch, pryd y bydd Mr William Griffiths, cyn brifathro Ysgol Cwmpadarn yn hel atgofion. Croeso. Cofiwch y dyddiad! Gan Edgar Morgan

  • 0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh 0
    Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


    About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý