Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Ddolen
Broga Nodiadau natur
Ebrill 2010
Ann Davies sy'n bwrw golwg dros byd natur yn yr ardal.

Ni ddaeth y dryw yn ôl a thrist oedd clywed fod naw deg pump y cant o'r adar bach yma wedi trengi yn oerfel y gaeaf eleni; a niferoedd y Glas y Dorlan a'r Crychydd Cam wedi dioddef yn enbyd oherwydd fod y rhew wedi cloi wyneb y dwr mor hir a'u rhwystro i bysgota yn ôl eu harfer.

Nid oes arwydd o'r Milfyw chwaith and diolch i'r `cnau defaid' a'r gwair mae'r milod yn fyw yn y caeau llwm tra'r bryniau unwaith eto dan eu cwrlid gwyn a Morus y gwynt yn chwipio'n ddidrugaredd dros fryn a dol.

Rhyfeddod yw fod y broga wedi cael blwyddyn cystal and wrth gwrs nid oes raid i hwn gasglu tanwydd di-baid i gynnal ei gorff ar dymheredd cyson. Bydd cyflymder ei systemau mewnol yn dilyn yr hinsawdd a prin yw'r angen am fwyd pan fydd popeth mewn ger isel ar dywydd oer.

Pydrodd yr wyau cyntaf yn y pwll fel yr ofnais, wedi eu rhewi'n garn ond erbyn hyn mae pentyrrau o jell brogaod yno - y mwyaf welais i erioed. ha dechrau mis Mawrth dechreuodd y brogaod gasglu wrth y fan ble'r oedd dwr croyw yn dod i'r pwll ac wedi hynny roedd dodwyed newydd bob dydd am tua pythefnos.

Colli cownt o'r diwedd a cholli cownt un bore ar of cyfri tua ugain o bennau brogaod yn bobian fel cyrc ar wyneb y dwr! Canodd y gerddorfa hefyd un bore yn y tywyllwch and gynted torrodd y wawr dyma'r symffoni yn darfod.

Dychwelodd Madfall-y-dwr adref hefyd i fagu ac mae degau ohonyn nhw nawr yn gwledda ar jeli maethlon y brogaod druain. Ar yr olwg gyntaf mae nhw yn dywyll a di-liw and wrth iddyn nhw ddianc yn sydyn mae nhw'n dangos eu boliau lliwgar a smotiog ar gefndir o wyrdd olewydd hardd.

Rai blynyddoedd yn ôl ymddangosodd rhyw "Amphibious craft" ar lan môr Aberystwyth - cerbyd oedd yn gallu symud ar dir a mor, fel rhai o'r awyrennau bach sy'n gallu glanio ar for neu lyn.

Yr un ystyr sydd i enw'r creaduriaid yma. Amffibia yw'r brogaod, madfallod-y ¬dŵr ac hefyd llyffantod.

Mae nhw i gyd yn treulio rhan o'u bywyd ar dir sych and yn gorfod cael dwr i ddodwy eu hwyau. Unwaith erioed welais i wyau Ilyffant, mewn jell fel rhai'r broga and ar ffurf Ilinyn hir a smotiau duon wedi ei lapio am goesgyn planhigyn yn y dŵr.

Prinhau ar y cyfan yw hanes yr Amffibia. Diflannodd llawer o'u cynefinoedd dan dir wedi ei sychu ac adeiladau newydd.

Anodd i greadur sy'n dod nôl i fagu yn ei hen gartref bob blwyddyn w darganfod fod ei gartref wedi diflannu! Un o atgofion blynyddol ein plentyndod yn Pantmawr wrth gerdded ôl a blaen i'r ysgol, oedd y miloedd o frogaod bach duon yn dringo o'r llyn, i fyny tuag at y coed ar draws y ffordd.

Roedd cymaint yno fel nad oedd yn bosib rhoi troed ar lawr heb ddamsgen ar rai ohonyn nhw. Ond ymlaen a nhw, fel milwyr ar gyrch di-droi'n-ol nes cyrraedd y nod yn niogelwch y dail ar lawr y goedlan. Rhyfeddod prin a gwerthfawr dros ben.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý