Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Ddolen
Ffilm 'Premiere'
Ebrill 2005
Cafodd Cymdeithas y Gwenynwyr Llanfihangel y Creuddyn ddangosiad o ffilmiau arbennig nôl ym mis Chwefror gan y dieweddar Meic Williams

Noson gartrefol gafwyd gan Gymdeithas y Gwenynwyr yn Nhafarn y Ffermwyr ddiwedd Chwefror. Noson o edrych yn ôl ar luniau fideo o'r saith a'r wyth degau trwy lygaid y diweddar Meic Williams - cyfarwydd ac enwog i bobl Llanfihangel a thu hwnt i fflniau'r plwyf.

Roedd ein diweddar gyfaill yn ddyn o flaen ei amser gyda'i gamera symudol yn rhoi ar gof a chadw ddigwyddiadau'r ardal a chip ar lawer hen gymeriad. Roedd hyn yn weithred sydd yn dwyn llawer o bleser i lawer ohonom a thrueni na fuasai eraill wedi gweld gwerth mewn rhywbeth tebyg.

Roedd ystafell gefn Tafarn y Ffermwyr yn llawn i'r ymylon a phawb yn edrych ymlaen i weld ei hun mewn ysgol neu garnifal a hyd yn oed rhai lluwchfeydd eira ddechrau'r wythdegau. Rhai yn blantos swil ac eraill heb fawr i'w ddweud o flaen y camera er fod cloch ymhob dant ganddynt fel rheol ar ben ffordd neu yn sgubor y cneifio.

Cawsom gipolwg ar fywyd y pentref cyn dod y newid sydyn mewn iaith a chymdogaeth dda sydd wedi chwyldroi ein bywyd cymdeithasol. Bu Meirion, Ty Capel, wrthi'n brysur dros yr wythnosau diwethaf yn dewis a didol deunydd ei frawd a mawr oedd diolch y Gymdeithas, a phawb oedd yn bresennol iddo.

Cafwyd raffl yn ystod y nos a phenderfynwyd rhannu'r elw rhwng dau achos teilwng lleol.

Erthygl gan Mrs M R George


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r Â鶹Éç yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý