Cyfnod cyffrous iawn sydd wedi dod yn hanes CERED (Menter Iaith Ceredigion) gyda Swyddog Maes newydd yn ymuno â'r tîm, sef Rhodri Francis. Mae Rhodri yn enedigol o Bontypridd yng nghymoedd y de ac wedi gweithio i'r Urdd, Menter Iaith Cynon Taf, Menter Bro Ogwr a CYD cyn symud i weithio fel Swyddog Maes Gogledd Ceredigion i CERED. "Rwyf yn edrych ymlaen at gyfrannu tuag at ddatblygu ar bortffolio CERED. Byddaf yn gweithio yn agos iawn gyda phartneriaid newydd er mwyn hyrwyddo'r iaith yn y Sir", dywedodd Rhodri. Bydd hyrwyddo'r Gymraeg ym myd hamdden a chwaraeon yn siŵr o ddenu ei sylw gan fod gan yntau hefyd ddiddordeb mawr yn y maes, yn ogystal a bod yn gefnogwr brwd o dîm pêl-droed Abertawe! Am fanylion pellach am waith CERED neu os ydych am gyfarfod, cysylltwch â Swyddfa Gogledd y Sir ar 01970 633671 neu rhodrif@ ceredigion.gov.uk
|