Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Ddolen
Criw meimio i gerddoriaeth CFfI Llanddeiniol ar ddiwrnod yr Eisteddfod Digwyddiadau Clwb Llanddeiniol
Rhagfyr 2006
Digwyddiadau Clwb Ffermwyr Ifanc Llanddeiniol dros yr wythnosau diwethaf.
Ar benwythnos cyntaf Tachwedd bu tair o aelodau'r clwb yn rhan o ddathliadau 70 mlynedd CFfI Cymru. Roedd Enfys, Anwen a Ffiona yn rhan o gôr mawr o dros 200 o leisiau oedd yn canu ar lwyfan Canolfan y Mileniwm Cymru, Caerdydd yn y Gala mawreddog. Cewch weld y Gala ar S4C ar ddydd Gŵyl San Steffan.

Rhaid oedd gohirio ein hymweliad a TÅ· Nant ar ddechrau'r mis felly cafwyd noson o gemau yn yr Ysgoldy. Elfen gystadleuol yr aelodau yn dod i'r amlwg wrth iddynt chwarae tennis bwrdd, `connect four' a gemau bwrdd eraill.

Daeth Donald Morgan o Blodau'r Bedol, Llanrhystud atom i gynnal noson. Bu'n dangos i ni shwt oedd mynd ati i greu arddangosfa ar gyfer y bwrdd Nadolig cyn i bob aelod gael tro yn creu campwaith eu hunain. Diolch iddo am noson ddymunol a phawb yn mynd adre' a'u campwaith yn barod i addurno'r tÅ·.

Ymlacio oedd y nod ym Mhenrhos ddiwedd y mis. Wedi cyfnod prysur braf oedd cael noson dawel (wel os chi'n galw 'water polo' yn dawel!) yn y pwll a'r jacwsi. Mae'n amlwg fod y Nadolig ar eu ffordd oherwydd creu craceri bu'r aelodau yn y clwb ar nos Lun gyntaf Rhagfyr. Rhai yn dangos tipyn o dalent wrth addurno'r craceri mewn modd diddorol ac unigryw. Llongyfarchiadau i Betsan ar greu'r cracer a charden Nadolig a blesiodd beirniaid y noson yn fawr.

Ar ddydd Sul 19 Tachwedd bu Enfys yn niwrnod briffio rhyngwladol CFfI Cymru i ymgeisio am le ar un o deithiau tramor y mudiad. Llongyfarchiadau iddi ar gael ei dewis yn un o dim Rali Ewropeaidd Cymru a fydd yn teithio i'r Almaen yng Ngorffennaf 2007.

Cynhaliwyd Eisteddfod y Sir yn Neuadd y Celfyddydau Llanbed ar benwythnos olaf Tachwedd a CFfI Llanddeiniol yn cystadlu mewn 12 cystadleuaeth lwyfan. Ar y nos Iau bu Carwyn a Huw yn chwarae eu hofferynnau yn gelfydd yn yr Unawd Offerynnol, a Huw yn cael ei ddyfarnu'n ail mewn cystadleuaeth o safon uchel. Bu Andrew a Gethin yn gohebu ar straeon diddorol yn y gystadleuaeth Bwletin Newyddion, y merched yn canu'n swynol yn y Parti Unsain a chriw mawr o fois a Miss Evans yn perfformio sgets 'Yr Ysgol'. Braf oedd clywed ymateb y gynulleidfa i jôcs y sgets.

Parhawyd gyda'r cystadlu ar fore Sadwrn pan fu Huw yn llefaru dan 13 ac yna Ffiona ac Enfys yn Canu Emyn. Nesaf ar y llwyfan oedd criw'r ymgom sef Gethin, Ffion a Betsan yn perfformio darn o waith o eiddo Dylan Iorwerth. Daeth ABBA a Queen yn fyw unwaith eto wrth i 17 o aelodau gamu ar y llwyfan yn y Meimio i Gerddoriaeth. Tro'r unawdwyr oedd hi unwaith eto pan fu Gareth Harries a Carwyn yn adrodd digri, Gareth ac Anti Bertha yn cyrraedd y 3ydd safle. Cynrychiolwyd CFfl Llanddeiniol yn y ddeuawd ddoniol eleni gan ddau alien o blaned yr odbods, dywed rhai taw Ffion ac Enfys oedd yn cwato to ôl i'r cymeriade!

Diweddwyd cystadlu Llanddeiniol pan ddaeth Ffiona i'r llwyfan i ganu'r gân `Wyt ti wedi meddwl' yn yr unawd Sioe Gerdd. Braf oedd clywed fod Enfys wedi cyrraedd yr ail safle yn y limrig ac yn 1af yn y frawddeg. Daeth Rhaglen y Clwb hefyd i'r brig. Wedi'r holl gystadlu, cyhoeddwyd fod CFfI Llanddeiniol yn 8fed yn yr Eisteddfod.

Llongyfarchiadau i'r holl aelodau fu'n perfformio - braf oedd gweld criw Llanddeiniol yn gyson ar y llwyfan.

  • Lluniau a Chanlyniadau Eisteddfod Ffermwyr Ifanc Bont 2006

  • Cyfrannwch
    Cyfrannwch i'r dudalen hon!

    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

    Sylw:




    Mae'r Â鶹Éç yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


    0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh 0
    Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


    About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý