Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Ddolen
Dai Jones Anrhydeddu Dai
Mai 2006
Noson arbennig yng Ngwesty'r Marine i anrhydeddu Dai Jones am ei gyfraniad difesur i fywyd cefn gwlad ac amaethyddiaeth.

Roedd gwesty'r Marine Aberystwyth dan ei sang ar Nos Sadwrn 8 Ebrill; 'gwreng a bonedd' wedi dod ynghyd gyda'r un amcan sef anrhydeddu Dai Jones a diolch iddo am ei gyfraniad difesur i fywyd cefn gwlad ac amaethyddiaeth. Cafwyd gwledd o fwyd i ddechrau a gwledd arall i ddilyn. Y prif siaradwr oedd yr Arglwydd Elystan; arwr mawr i Dai ac yn ei eiriau of ei hun: 'gwr sy'n rhoi 'thrill' iddo bob tro fydd yn ei glywed yn llefaru'.

Cyflwynwyd gwobrau i Dai ar ran Undeb Amaethwyr Cymru ac Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr. Ymhlith y siaradwyr roedd Cynog Dafis, Charles Arch, John Walter Jones (Cadeirydd Newydd S4C) ac Euryn Jones o Fanc Barclays, (un o brif noddwyr y noson). Roedd yna nifer o wynebau amlwg yn bresennol o wahanol gylchoedd a phawb yn gytun fod Dai yn berson unigryw, yn gyfathrebwr heb ei ail ac yn llawn teilyngu'r anrhydedd.

I gloi'r noson ar nodyn hynod o addas roedd rhai o aelodau Cor Ceulan wedi dod ynghyd o dan arweiniad Eirwen Hughes i ganu can arbennig o wrogaeth i Dai. (Bu of am flynyddoedd yn arwain eu Noson Gwyl Ddewi yn y Marine).

Oedd, roedd Dai yn ei seithfed nef a hir y parhao i ddiddanu ei genedl a diolch i Olwen a John Ifor a'i deulu am eu cefnogaeth dawel. Diolchodd Dai i bawb ar y diwedd ac yn ei eiriau of ei hun:

'Diolch i Gymru fach am y cefnogaeth a diolch i'r Goruchaf am y fraint o godi bob bore a rhodio'.

Erthygl gan Beti Griffiths o Lanilar


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r Â鶹Éç yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý