Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Ddolen
Canolfan newydd Canolfan Newydd i Lanilar
Tachwedd 2003
Prynhawn Sadwrn 19 Hydref 2003 daeth tyrfa luosog ynghyd ar achlysur agoriad swyddogol Canolfan Hen Ysgol Llanilar.

Cafwyd gair o groeso gan Mr Mike Francis, Cadeirydd Cymdeithas Datblygu Cymuned Llanilar ac yna rhoddodd fraslun o'r digwyddiadau o gychwyn y fenter hyd ei chwblhau, gan gyfeirio yn arbennig at aelodau ymadawedig y pwyllgor sef y diweddar JR. Evans (breuddwyd JR. oedd sefydlu'r ganolfan yn y lle cyntaf), y diweddar Frank Keyse, cyn ysgrifennydd y Gymdeithas a fu'n gweithio'n ddiwyd yn ceisio denu nawdd i adnewyddu'r Ganolfan a hefyd y diweddar Harri Davies, y ddiweddar Katie Isaac a'r diweddar Cyril Jones a fu'n ffyddlon iawn i'r achos ar hyd y blynyddoedd.

Wrth gyflwyno y gwr gwadd Mr Richard James, Penbanc, Llanilar dywedodd Mr Meirion Jones ei fod wedi ei ddewis i'r swydd gan mai ef yw'r cyn-ddisgybl hynaf sy'n dal i fyw yn nhalgylch cymuned Llanilar ac wedi derbyn y cyfan o'i addysg gynradd yn yr hen ysgol. Cyfeiriodd at ffyddlondeb Mr James tuag at ei ardal a'r ffaith ei fod wedi treulio deugain mlynedd fel organydd Capel Carmel. Wrth dorri'r rhuban, dywedodd Mr James ei fod yn fraint ac yn anrhydedd ganddo gyflawni'r dasg.

Ar ôl i bawb fynd i mewn i'r adeilad perfformiodd plant Ysgol Gynradd Llanilar ddwy gân, y gyntaf yn ymwneud â'r cynhaeaf ac yna 'Can y Pentref' gyda geiriau pwrpasol wedi eu cyfansoddi gan Miss Beti Griffiths, cyn-athrawes yn yr hen ysgol a chyn-Brifathrawes yr ysgol newydd. Diolchwyd i Mr Michael Carruthers, Prifathro'r ysgol, yr athrawon a'r plant am eu cyfraniad.

Cafwyd anerchiadau gan Mr Deian Creunant, Swyddog Cyhoeddusrwydd y Gronfa Gymunedol; Mr James Owens, Rheolwr De Orllewin o Gyngor Chwaraeon Cymru; Y Cynghorydd Stan Thomas, Cadeirydd Cyngor Sir Ceredigion; Mr Lionel Curtis, Pensaer a Miss Elin Jones, Aelod y Cynulliad.

Talwyd y diolchiadau gan y Cynghorydd Rowland Jones, Ysgrifennydd y Gymdeithas, a chyfeiriodd at y blynyddoedd o waith caled a gyflawnwyd gan y Pwyllgor Datblygu i sicrhau ariannu adnewyddu Canolfan Hen Ysgol Llanilar. Cyfeiriodd hefyd at gofnod yn y Llyfr Ymwelwyr wedi ei ysgrifennu gan Mrs Val O'Shea sef 'Dywedont na fyddai byth yn digwydd - diolch yn fawr am waith caled nifer o weithwyr ffyddlon' ac yn wir dyna beth sydd yn nodweddu - penderfyniad a brwdfrydedd y Pwyllgor i ddod â'r gwaith i ben yn lwyddiannus.

Darparwyd lluniaeth ysgafn gan aelodau Merched y Wawr, Sefydliad y Merched, Cymdeithas yr Henoed a ffrindiau'r Ganolfan. Torrwyd y gacen gan Mr Richard James a chafodd pawb siawns i'w blasu. Yna cafwyd cyfle i gymdeithasu, gyda rhai o'r cyn-ddisgyblion hyn wedi dod o bell a heb weld hen ffrindiau ers blynyddoedd. Y farn gan bawb - diwrnod i'w gofio!


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý