Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Ddolen
Aelod o'r clwb Clwb Karate Tekki
Mawrth 2004
Bron i ddwy flynedd yn ôl bellach fe es am wythnos o wyliau i ardal Torbay, sef Riviera Lloegr fel y'i gelwir.

Mynd i gadw cwmni i'm mab, Twm, oeddwn i. Roedd e am dreulio wythnos yn cael hyfforddiant dwys, gyda gweddill Clwb Karate Tekki, gan brif hyfforddwyr Karate Prydain, a'm bwriad i oedd mwynhau'r haul, diogi, darllen, ac yn y blaen. Fe ddes i oddi yno wedi treulio wythnos o dywydd braf o dan do yn gwylio pob un sesiwn a chael fy swyno'n llwyr.

Bellach rydw inne'n hyfforddi gyda chlwb Tekki o leiaf ddwywaith yr wythnos. Mae'n grefft sy'n eich datblygu a'ch cryfhau'n gorfforol yn raddol wrth i chi dringo'ch ffordd i fyny trwy'r camau a'r gwregysau lliw. O wyn, oren, i goch, i felyn, i wyrdd, i borffor, i borffor a gwyn, i frown, a brown a gwyn, a brown a dwy streipen wen, ac yna'n ddu.

Gyda phob lliw aiff y gofynion yn uwch ond mae sail yr hyn sy'n ddisgwyliedig wedi ei osod yn y lliw blaenorol. Nid yw karate'n gelfyddyd hawdd. Mae'n gofyn llawer gan unigolyn mae'n mynnu disgyblaeth ac ymroddiad. Ond dyna i mi yw rhan o'i gogoniant, Ac hefyd ar ben popeth mae'n llawer IAWN o hwyl.

O dan yr agwedd gorfforol mae elfennau symbolaidd cryf a chyfoethog i'r symudiadau.

Sefydlwyd Clwb Tekki flynyddoedd yn ôl gan Roger Sayce. Fel sy'n hysbys bu Roger farw ymhell cyn pryd tua dwy flynedd a hanner yn ôl. Yn ystod ei fywyd fe ysbrydolodd gannoedd o ferched a bechgyn ifanc trwy gyfrwng ei waith gyda'i glwb. Ar ôl ei farw, ac yn ôl dymuniad Roger Sayce, fe gamodd Simon Ellwood Thompson i'r adwy i ofalu am y Clwb. Ef yn awr yw'r Sensei, sef Athro.

Caiff Simon ei gynorthwyo gan ddau neu dri o aelodau mwyaf profiadol y clwb - hwythau wedi eu meithrin yn y grefft gan Roger Sayce. Magwyd Simon yn Llanafan, ac er ei fod bellach yn byw yng Nghaerdydd, cymaint yw ei ymroddiad y mae'n teithio nôl i Aber bob penwythnos i hyfforddi aelodau Tekki. Fis Hydref fe fu'n llwyddiannus i ennill ei drydydd Dan, sef trydydd gris fel gwregys du.

Tystiolaeth o feistrolaeth a dawn Roger Sayce a Simon Thompson yw bod Clwb Tekki'n cael ei ystyried y clwb Karate gorau yng Nghymru ac un o brif glybiau Karate Prydain. Mae enw da Tekki wedi lledu ymhell. Enillodd y clwb darian Clwb Gorau Cymru ddwywaith o'r bron ym Mhencampwriaethau Cymru ym Merthyr Tydfil. Mae unigolion o'r Clwb yn gyson yn cyrraedd rowndiau terfynol ac yn ennill mewn cystadlaethau ledled Prydain. Fis Rhagfyr diwethaf daeth un o aelodau amlwg y clwb, sydd hefyd yn hyfforddi, sef Euros Edwards o Gei Newydd, i'r rownd gynderfynol ym Mhencampwriaethau Ewrop. Dewiswyd 11 o aelodau'r Clwb i'r sgwad cenedlaethol, yn eu plith rai o ardal y Ddolen - sef Alice a Sophie Griffiths o Gapel Seion, a Sarah Lane o Lanilar.

Mae gan Tekki ganolfannau yn Aberystwyth, sy'n cyfarfod yng Nghanolfan Hamdden Plascrug, yn Borth, yn Aberaeron, ac yn Llambed. Byddem wrth ein bodd yn eich croesawu atom.

Cewch y sesiwn gyntaf am ddim i roi blas i chi o'r hyn y gallech ei gyflawni a'i fwynhau. Trowch i fyny mewn dillad llac a chyfforddus! Edrych ymlaen i'ch gweld! Amserau hyfforddi ynAberystwyth, Sadwrn 10:30 a.m. i 12:00, Sul 10:30 a.m. i 12:00, Mawrth 8:00 i 9:30 p.m, Gwener 7:00 i 8:30p.m. I gael rhagor o fanylion cysylltwch ag Elin ar 07817 450 398.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý