Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Ddolen
Meleri McDonald Cadair Clonc
Mawrth 2009
Y Ddolen yn holi Meleri McDonald, Blaenplwyf am ei bywyd a'i gwaith.

Ymhle cawsoch eich geni a lle rydych wedi byw?

Cefais fy ngeni yn Hwlffordd, Sir Benfro, gan fyw yng Nglanaman, Prestatyn a Chydweli cyn symud i Aberystwyth yn 3 oed. Gan fod fy nhad yn gweithio gyda'r Eisteddfod Genedlaethol ar y pryd, roedd y trulu i gyd yn symud o ardal i ardal. Yn Aberystwyth y cefais fy magu, ac er i mi fyw am bron i ddeng mlynedd yng Nghaerdydd ar ôl priodi, symudais yn ôl i Geredigion bedair blynedd yn ôl, i fyw ym Mlaenplwyf.

Rhowch fraslun o'ch gyrfa.

Wedi gorffen yn y coleg, dechreuais wirfoddoli gyda Radio Ceredigion, a hynny pan oedd yr orsaf yn ei blwyddyn gyntaf, yn darlledu o'r cabanau dros dro yn yr hen Ysgol Gymraeg. Yna bûm am gyfnod gyda'r Â鶹Éç yn Abertawe, cyn cael swydd yn cynhyrchu trêls rhaglenni yn S4C. Erbyn hyn rwy'n gweiihio fel cyfieithydd o'm cartref.

Beth yw eich diddordebau?

Rwy'n hoff o gerdded ar hyd llwybr yr arfordir yng Ngheredigion a Sir Benfro, ac yn cadw'n heini drwy ioga a nofio. Rwyf hefyd yn aelod o gôr ABC.

A oes rhyw ddigwyddiad wedi pen embaras i chi?

Do, llawer, ond does gen i ddim awydd sôn am hynny!

A ydych yn mwynhau teithio? Pa ran o'r byd sydd orau gennych a phaham?

Rwyf wrth fy modd yn teithio, ac wedi crwydro yn Ewrop, gogledd, canolbarth a de America, Asia ac Affrica. Y profiad gwaethaf oedd cyrraedd Luxor, yr Aifft ar ddiwrnod ymosodiad terfysgol pan laddwyd nifer fawr o ymwelwyr. Y profiad mwyaf anhygoel oedd taith gerdded yn Nepal, at droed Everest. Ond fy hoff ran o'r byd, wrth gwrs, yw cartref fy nheulu yn Gaiman, Patagonia, ac rwyf wrth fy modd yn mynd yno. Gobeithio y gallwn fynd yno eleni eto.

Beth yw eich hoff dasg o amgylch y tÅ·?

Dydw i ddim yn hoff iawn o unrhyw dasgau o amgylch y tÅ·, a bod yn onest, and y gwaethaf un yw glanhau'r carped. Pan oedd y plant yn dechrau dysgu siarad, `peiriant Dad' oedd eu henw ar y peiriant glanhau carped - sy'n dweud y cyfan!

Garddio neu drip I'r archfarchnad? Pa un sydd orau gennych a pham?

Rwyf wrth fy modd yn siopa (er nad archfarchnad fyddai'r dewis cyntaf), ac yn medru lladd bob planhigyn sy'n dod yn agos ataf - felly does dim cystadleuaeth!


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý