Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Ddolen
Cadw'n heini drwy gerdded
Ionawr 2006
Mae'r cyfleoedd i fwynhau ein treftadaeth naturiol yn fwy nag y bu ers talwm ac yn ffordd wych o gadw'n heini hefyd.

Mynd am Dro - Does Dim Byd Gwell

Yn ôl arolwg diweddar, nid yw 70% ohonom yng Nghymru yn gwneud digon o ymarfer corff, ac er y bydd llawer ohonom yn mynd am dro y Nadolig hwn, dim ond y rheiny sy'n parhau i ymarfer am tua hanner awr 5-diwrnod-yr-wythnos a fydd yn cael y manteision iechyd a argymhellir.

Yn ôl yr arbenigwyr, mae ymarfer corff rheolaidd nid yn unig yn lleihau'r risg o gael afiechydon difrifol, fel clefyd y galon a chanser y coluddyn, ond gall hefyd fod yn help mawr i leihau poendod meddwl.

Cefn Gwlad - Ble i fynd?
Gyda thua 22% o gefn gwlad Cymru ar agor i'r cyhoedd, mae'r cyfleoedd i fwynhau ein treftadaeth naturiol yn fwy nag y bu ers talwm iawn. Fel arfer, mae llwybrau cyhoeddus yn adnodd lleol pwysig, ond ers Mai 2005 mae gan y cyhoedd hawl hefyd i gerdded ar ardaloedd eang o fynyddoedd agored a rhostiroedd. Er mwyn darganfod mwy am fynediad agored yn eich ardal ffoniwch y Cyngor Cefn Gwlad ar 0845 130 6229, neu ewch i 'Mynediad i Gefn Gwlad'.

Llwybrau Cenedlaethol
Mae Llwybr Cenedlaethol Clawdd Offa yn rhoi cyfle i'r cerddwr archwilio gororau Cymru o un o henebion archeolegol pwysicaf Ewrop. Twmpath anferth o bridd a cherrig o'r 8fed ganrif yw Clawdd Offa, sy'n ffurfio'r hen ffin rhwng Cymru a Lloegr. Mae Llwybr Glyndŵr (Powys) a Llwybr Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro hefyd yn rhoi cyfle i'r cerddwr weld rhai o olygfeydd mwyaf trawiadol Cymru. I gael manylion ffoniwch 0845 130 6229, neu ewch i wefan y Cyngor Cefn Gwlad.

Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol
Mae gan Gymru 66 o Warchodfeydd Natur Cenedlaethol a ddewiswyd oherwydd eu bywyd gwyllt arbennig a'u harddwch naturiol eithriadol. Tra bod Cadair Idris a Chwm Idwal yn Eryri yn cynnig golygfeydd myr.yddig dramatig a thirweddau iasol i'r cerddwr mynydd, mae twyni tywod Oxwich a chlogwyni calchfaen Arfordir Gŵyr yn cynnig cyfoeth o gynefinoedd bywyd gwyllt i gerddwyr, yn ogystal â rhai o'r golygfeydd arfordirol harddaf yn Ewrop. I gael manylion am y rhain a llawer eraill o Warchodfeydd Natur Cenedlaethol Cymru, ffoniwch 0845 130 6229 neu ewch i wefan y Cyngor Cefn Gwlad (uchod) a cliciwch ar 'Llefydd i Ymweld'.

Mentrau Cerdded
Oherwydd y manteision sylweddol a ddaw i'r iechyd yn sgil cerdded, mae'r Cyngor Cefn Gwlad, ynghyd â Sefydliad Prydeinig y Galon - gydag arian ychwanegol gan y Gronfa Loteri Fawr - wedi cychwyn cynllun i annog pobl segur i gerdded mwy. Mae 'Cerdded Llwybr Iechyd' wedi sefydlu nifer o brosiectau cerdded o dan arweiniad y gymuned mewn ardaloedd yng Nghymru lle mae iechyd y trigolion yn wael, ac mae tua 40,000 o bobl eisoes wedi elwa ar y cyfle i fynd allan a mwynhau eu hamgylcheddau lleol. Am ragor o fanylion, ffoniwch 0845 130 6229, neu ewch i

Erthygl gan Jonathan Neale, Ysgrifennwr Erthyglau Cyngor Cefn Gwlad Cymru


Cyfrannwch

Philys o Porthdinllaen
Mae na lawer o lwybrau defnyddiol ar hyd a lled Cymru


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r Â鶹Éç yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý