Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Ddolen
Gerddi Llanerchaeron Rhychwyr Llanerchaeron
Gorffennaf 2007
Gwyn Evans yn sôn am gystadleuaeth arbennig yng ngerddi Llanerchaeron, yn ei golfn fisol 'O'r Ardd' ym mhapur bro Y Ddolen.

Yn y rhifyn olaf soniais am sychder oedd yn rhoi ychydig ofid i'r garddwyr a'r ffermwyr, ond am fis Mehefin gwlyb a'r llifogydd dinistriol yn peri gofid i lawer ardal. Nid oes cof gennyf am fis Mehefin mor ddiflas a gwlyb ac, ar adegau, yn oeraidd ac yn debycach i dywydd mis Mawrth na chanol haf. Diflas iawn oedd gweld gerddi a chnydau amaethyddol yn rhai o ardaloedd Lloegr wedi eu llwyr ddifetha gyda'r llifogydd. Hyn i gyd wedi'r holl waith. Rydym yn ffodus iawn yn ardaloedd Y Ddolen bod y llifogydd tu hwnt i'n cyrraedd ond mae'r glaw trwm wedi gadael ei ôl ar rai o blanhigion y basgedi crog ac yn y blaen. Rwy'n gobeithio bod rhai wythnosau o haf eto i ddod neu mi fydd yn aeaf hir.

Tybed a ydych wedi sylwi pan fo'r tywydd yn wlyb ac yn wael yn y rhan yma o'r byd bod y tywydd yn eithriadol o dda yn Sbaen, yr Eidal, Groeg ac yn y blaen. Ond pan fo'r tywydd yn wael yn yr ardaloedd yna mae'r tywydd ym Mhrydain yn braf ac yn wresog. Rwy'n siŵr fod yna ateb penodol i hyn gydag awdurdodau'r tywydd.

Rhyw arddio weddol bratiog sydd wedi cymryd lle dros gyfnodau hir o fis Mehefin ond hoffwn bwysleisio ar gystadleuaeth arbennig ddigwyddodd yn Llanerchaeron ganol y mis. Cystadleuaeth rwy'n siŵr na chlywsoch amdani erioed o'r blaen ac efallai y cyntaf yn y byd! Mae cystadleuaeth troi a gosod perthi yn adnabyddus iawn ym myd amaethyddiaeth ond a glywsoch chi erioed am gystadleuaeth 'rhuchio' gyda rhaw coes hir Aberaeron; ond felly y bu yn Llanerchaeron yn ddiweddar. Cefais y fraint o fod yn brif feirniad gyda Gerallt Pennant, Huw Thomas ac un arall, lle mae'r enw wedi mynd yn angof. Bu'r tywydd yn wael ddyddiau ynghynt ond cawsom brynhawn hindda i gwblhau'r gystadleuaeth. Y gystadleuaeth oedd creu rhych 60 troedfedd (20 llath) o hyd heb gordyn a heb begs nag unrhyw gynhorthwy arall - dim ond nerth y llygad. Fel beirniad roeddem yn edrych am gywirdeb a rhych ddefnyddiol at bob pwrpas.

Daeth un deg a phedwar o rychwyr i'r maes gan gynnwys dwy ferch - un ohonynt o fewn cyrraedd i bedwar ugain - henaint ni all ildio! Er bod y tir yn drwm oherwydd glaw gwnaeth pob un ohonynt ymdrech rhyfeddol a bu llawer iawn yn eu gwylio a chael amser rhagorol dros ben. Hwyl heb ei well. Bu'r beirniaid i gyd yn gytun i ddod â'r tri gorau i'r brig gan gynnwys John Giant Griffiths o Ledrod, Tom Griffiths o Benuwch ac Aeron Davies o Gribyn ac o'r tri hyn aeth y wobr gyntaf i Tom Griffiths. Y wobr oedd rhaw Aberaeron wedi ei haddurno a hefyd tlws i'w gadw am flwyddyn. Pwrpas y gystadleuaeth oedd codi arian at Ŵyl Gerdd Dant sydd i'w chynnal ym Mhontrhydfendigaid eleni. Y person tu ôl i hyn oll oedd John Watkins o Ffair Rhos ac yn ôl John cyfrannwyd swm da o arian at yr achos yma.

Fel rwy'n deall bydd hon yn gystadleuaeth flynyddol a chofiwch os am roi tro arni y flwyddyn nesaf rhaid i chi chwilio, prynu neu fenthyg rhaw coes hir Aberaeron. Ni chewch ddod â phâl neu unrhyw raw arall i'r maes. Rwyf am chwilio hanes gwreiddiol y rhaw yma sydd wedi bod mewn bodolaeth, hyd y gwyddwn i, am dros bedwar ugain o flynyddoedd. Os gall unrhyw un roi hanes y rhaw, byddaf yn ddiolchgar iawn. Fel rwy'n deall mor belled, William Evans, hen aelod o deulu gofaint Llanfihangel y Creuddyn gychwynnodd y ital ond aeth i fyw yn Aberaeron, lle bu'n creu niferoedd lawer o'r rhawiau yma. Ef hefyd gychwynnodd ital yr arad fain geffylau yn ôl yn y 1920au. Dyn â llawer o weld ynddo heb os nac oni bai. Tybed a oes rhagor o'i hanes gan rywun. Yn ystod y blynyddoedd mae gof o Gwmsychbant wedi parhau i greu'r rhofiau hyn ond fel rwy'n deall mae prinder dur o'r safon yn peri i'r rhaw farw allan. Tybed a gawn ddiwygiad o rywle i ail gynhyrchu'r rhaw boblogaidd yma.

Mae rhaw Aberaeron fel y'i gelwir wedi bod yn un o offerynnau pennaf y garddwr ers blynyddoedd lawer. Mae gweithredu heb blygu llawer yn fantais fawr yn y rhaw yma. Hon hefyd oedd offeryn poblogaidd 'dyn yr hewl' yn ei ddyddiau fel `lengthman'. Hon, gyda'r cryman wrth gwrs! Ond rhaid dweud bod ffordd effeithiol o ddefnyddio'r offer yma. Yn anffodus mae'r peiriannau wedi cymryd drosodd - dim i'r gwell mewn llawer maes. Tybed a fyddai llawer o'r llifogydd yma wedi cael eu hosgoi os pe byddai mwy o ddefnydd yn cael ei wneud o'r rhaw sylfaenol yma. Roedd 'dyn yr hewl' yn cadw'r gwteri dan reolaeth. Heddiw torrir porfa heb ei glirio a hwn yn cau'r gwteri gan ychwanegu at y perygl o lifogydd.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r Â鶹Éç yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý