Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Ddolen
Matthew Robinson Ochr Draw'r Byd
Ionawr 2009
Hanes Matthew Robinson o Lanrhystud a oedd yn doctor i dîm rygbi Canterbury yn Seland Newydd tymor diwethaf.

Rwyf wedi bod yn byw yn Christchurch, Seland Newydd, am dros flwyddyn nawr ac and wedi gweld ychydig bach ôr wlad brydferth hon. Yn gorwedd bron yn union gyferbyn â Chymru ar ochr arall y byd, mae'r wlad ychydig yn fwy na Phrydain and yn cynnwys llai o bobl Na Chymru (a 39 miliwn o ddefaid!).

Wrth deithio i fyny o waelod ynys y de ceir Ynys Stewart paradwys i gerddwyr, gyda llwybrau bychain yn rhedeg trwy goedwig wyllt lie gwelir gyda'r nos y Kiwi, aderyn cynhenid yr ynysoedd a gollodd yr angen i hedfan am nad oedd unrhyw anifail yno i'w fygwth.

Ar ynys y de (neu'r 'Mainland' os ydych yn byw yno) gwelir copaon gwyn yr Alpau yn mestyn fel asgwrn cefn drwy ganol y tirlun. I'r gorllewin rhed y llethrau i lawr tua'r môr, yn goedwig naturiol trwchus, I gwrdd a'r tonnau mawr a'r traethau di-bobl.

Dyma leoliad y 'Sounds' (Milford a Doubtful) a'r 'Glaciers' (Fox a Franz Josef) enwog, I'r dwyrain mae'r peithiau a'r bryniau yn gartref i ddiwydiant amaethyddol y wlad, gydag ambell dref a phentref yn ganolfan i'r boblogaeth wasgaredig.

Mae'r tywydd yn poethi, y mynyddoedd yn lleihau, a'r traethau yn gwella wrth deithio i ynys y gogledd, lle mae ardaloedd gydag enwau megis 'Bay of Plenty', Bay of Islands' a 'Ninety Mile Beach' yn mwynhau hinsawdd isdrofannol.

Yma mae presenoldeb y Maori, yn ogystal â phobl ynysoedd Polynesia, yn fwy amlwg - yng ngwedd y boblogaeth ac hefyd yn enwau'r trefi, e.e. Whakatane, Rotorua, Opotiki ac yyb.

Saif Christchurch ar ochr ddwyreiniol ynys y de. Yn gartref i 344,000 o bobl fe'i sefydlwyd gan Eglwys Loegr ym 1850, yn enghraifft o gymdeithas Seisnig yn hemisffer y de. Hyd heddiw fe'i hystyrir fel tref fwyaf Seisnigaidd y wlad, ac mae hi'n hawdd gweld paham - mae Oxford Terrace a Cambridge Terrace yn rhedeg naill ochr i'r afon Avon, lie gwelir twristiaid yn llithro heibio ar eu 'punts'.

Mae tramiau clasurol eu cynllun yn crwydro strydoedd ag enwau fel Gloucester, Worcester, Peterborough a Manchester. Mae dylanwad teithwyr o Gymru hefyd i'w weld o dro i dro - ardal Bryndwr ar gyrion y dref a strydoedd o'r enw 'Glandovey Street' a 'Pentre Terrace'.

Penderfynais ddod i Christchurch gan fod nifer o ffrindiau wedi symud yma. 'Roedd eu lluniau a'u hanesion wythnosol am anturiaethau syrffio neu sgio yn apelio'n fawr ataf ac mae byw yma yn rhoi cyfle i mi fyw a gweithio yn agos at fy ffrindiau.

'Rwvf wedi graddio fel meddyg and mae hi'n gyfnod ansicr i ddoctoriaid ym Mhrydain. Yn wir, mae 'na gymuned fawr o ddoctoriaid Prydeinig a Gwyddelig yn byw yn ein pentre ar lan y môr, ychydig i'r de o'r dre.

Dechreuais weithio mewn ysbyty yn Christchurch. Yn Awstralia a Seland Newydd mae hi'n bosib arbenigo mewn meddygaeth ac anafiadau chwaraeon a dyma yw fy nod.

Felly ar ôl gwaith bob dydd mi wnes feicio i gliniig chwaraeon er mwyn cael profiad gwaith. Ar ôl 3 mis roeddwn yn ffodus iawn i gael cynnig swydd llawn amser! Mae hi wedi bod yn gyfiiod prysur o ddysgu cangen hollol newydd o feddygaeth ond, ar ô1 9 mis, rwy'n dal i'w fwynhau.

Trwy fy nghysylltiadau yn y gwaith, mi gefais gynnig i weithio fel doctor i dîm rygbi proffesiynol Canterbury.

Roedd hyn yn gam mawr i mi ond, gyda digon o gymorth wrth law, mi ddechreuais y tymor ym mis Gorffennaf.

Roedd hi'n gyfnod prysur, gan fod rhaid i mi weld y bechgyn bob dydd am 3 mis a hanner trwy fisoedd y gaeaf wrth iddynt ymarfer, chwarae a theithio'r wlad i wynebu timau ardaloedd eraill.

Mae'n rhaid dweud ei bod hi'n bleser cael gweithio gyda grwp o fechgyn boneddigaidd, disgybledig ac enfawr o gorff! Er bod rhai ohonynt yn 'Grysau Duon' profiadol, roeddynt yn fechgyn ffein ac yn awyddus i glywed am fywyd yng Nghymru.

'Roedd hi hefyd yn brofiad newydd i mi gael gweld bywyd tîm proffesiynol - nid yn unig yr oedd angen trefnu'r tîm ar gyfer y penwythnos, and hefyd rhaid sicrhau nad oeddent yn ymarfer gormod, ceisio gorffwys y sêr ar gyfer y gemau pwysig, a hefyd trefnu gweithgareddau y tu allan i rygbi er mwyn datbtygu cymeriad y chwaraewyr a'r tîm. O'r herwydd bum yn rafftio, chwarae gêmau rhyfel 'paintball' a theithio ar 'jet boats' gyda'r tîm.

Roedd eu hagwedd tuag at y gêm yn agoriad llygad hefyd.

Breuddwyd pob un ohonynt yw gwisgo'r crys du ac ennill mor aml â phosib. Mae alcohol a nosweithlau hwyr yn cael eu hanghofio hyd ddiwedd y tymor, gan mai perfformio ar eu gorau ac ennill yw'r prif nod trwy bob cystadleuaeth.

Un peth sydd wedi 'nharo tra'n gweithio gydar tim yw'r distawrwydd cyn y gemau.

0'r foment iddyn nhw adael y gwesty (gartref neu i ffwrdd) maent i gyd yn eu byd bach eu hunain - rhai yn gwrando ar 'i-pods', rhai yn darllen trwy eu llyfrau nodiadau yn llawn tactegau'r gêm, a'r bechgyn o Samoa Tonga yn gweddio.

Does neb yn siarad hyd nes 2 funud cyn rhedeg i'r maes - pawb yn canolbwyntio ar ei gyfraniad ei hun

Cynhaliwyd gêm derfynol yrAir New Zealand Cup yn Wellington ac lwyddasom i drechu'r tîm cartref 7-6 yn y glaw - diweddglo da i -15 wytluios o waith called.

Yn ystod y cyfnod hwn hefyd bum yn ddigon ffodus i gael gwahoddiad i fod yn feddyg wrth gefn mewn gêm rhwng y Crysau Duon enwog a Lloegr yn stadiwm Christchurch - braint wirioneddol!

Mae'r haf ar ein pennau nawr a phawb yn paratoi'r barbeciw ar gyferyNadolig! Mae'r tywydd braf yn sicrhau nad oes gormod o hiraeth arna i am adre ar yr adeg yma o'r flwyddyn ac mae 'na ddigon o ffrindiau o'r coleg ysgol a'r pentre cyfagos i mi gael blas o Brydain bob hyn a hyn. Hyd yn hyn 'rwy'n mwynhau byw draw ym ac 'rwy'n cynghori unrhyw un sydd a chwant ymweld Seland Newydd i deithio yma o leia unwaith.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý