Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Ddolen
Robyn Lyn Evans Llwyddiannau lleol
Medi 2007
Darth llwyddiant i ddau o ddynion lleol yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Y Fflint 2007 - y Rhuban Glas i Robyn Lyn Evans a Gwobr Goffa Lady Herbert Lewis i Trefor Puw.

Uchafbwynt gyrfa y tenor ifanc Robyn Lyn Evans o Tynrhos, Pontrhydygroes hyd yn hyn oedd ennill 'Y Rhuban Glas', sef gwobr goffa David Ellis yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Y Fflint ddechrau mis Awst.

Dyma oedd ei ymgais gyntaf am y 'rhuban glas' a hynny ar ôl iddo ennill ar yr unawd tenor agored dros 25 oed ar ddydd Iau'r Eisteddfod drwy guro Cardi ifanc arall sef Evan Williams o Ledrod ynghyd â chyfaill agos, ac un o'r 'Tri Tenor' sef John Davies o Llandybie.

Y cam nesaf oedd paratoi ar gyfer Gwobr Goffa David Ellis - 'Y Rhuban Glas' oedd i'w chynnal eleni ar brynhawn Sadwrn olaf yr eisteddfod. Roedd amodau'r gystadleuaeth yn caniatàu i gantorion newid yr unawdau ers cystadleuaeth yr unawd tenor, ond rhaid oedd cynnwys unawd gan gyfansoddwr o Gymru.

Dewis Robyn ar y prynhawn Sadwrn oedd 'Y Dieithryn' gan Morgan Nicholas a 'Tyrd cwyd yn awr o haul' allan o'r opera Romeo a Juliet gan y cyfansoddwr Ffrengig Gounod. Gwefreiddiwyd y dorf a'r beirniaid gan y cyflwyniad pruddglwyfus o'r 'Dieithryn'. Hefyd, gwerthfawrogwyd y cynildeb a'r tynerwch ynghyd â'r purdeb sain wrth gyfleu toriad y wawr yn y gân Ffrengig. Cyhoeddodd y gantores, a chyn enillydd y Rhuban Glas sef Glenys Roberts farn unfrydol y Panel Beirniaid y dylai 'Rhuban Glas' Sir Fflint ynghyd â'r wobr ariannol o £300 ei dyfarnu i Robyn Lyn.

Yn sicr mae canu a cherddoriaeth yng ngwaed Robyn. Dechreuodd ganu pan oedd yn ddwy oed ar aelwyd gerddorol Tynrhos, a chystadlu am y tro cyntaf pan yn saith oed yn Eisteddfod Capel Maesglas Ysbyty Ystwyth lle enillodd wobrau cyntaf. Yna mynd ymlaen i gystadlu mewn cylch ehangach o Eisteddfodau gan deithio ledled Cymru a chael llwyddiant mawr. Ymhlith ei lwyddiannau gellir rhestru ennill Tarian Goffa Dr Haydn Morris yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd pan yn 19 oed; Prif ganwr dan 16 oed yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen; y wobr gyntaf a phrif ganwr rhyngwladol ifanc yn Llangollen yn 1999.

Yn ogystal mae wedi ennill rhuban glas y prif ganwr yn Eisteddfod Rhys Thomas James Pantyfedwen, Llanbedr Pont Steffan yn 2000 a Rhuban Glas Osborne Roberts dan 25 oed yn Eisteddfod Genedlaethol Llanelli a'r Cylch yn y flwyddyn 2000. Ers pedwardegau'r ganrif ddiwethaf dim ond pump ymgeisydd sydd wedi llwyddo i gipio'r ddau ruban glas (dan 25 oed a thros 25 oed).

Mynychodd Robyn ysgol gynradd Ysbyty Ystwyth ac Ysgol Uwchradd Tregaron cyn mynd ymlaen i Goleg y Drindod Caerfyrddin lle graddiodd gyda 2.1 mewn Theatr, Cerdd a'r Cyfryngau a derbyn ysgoloriaeth Stuart Burrows. Bu'n gweithio i Goleg y Drindod am gyfnod o wyth mlynedd cyn mynd i Goleg Cerdd Brenhinol Llundain i wneud ôl radd a derbyn gradd rhagoriaeth ym mis Gorffennaf eleni.

Llongyfarchiadau calonnog i Robyn Lyn a gobeithiwn glywed ei enw ar lwyfannau mawr y byd yn y dyfodol. Dyma ran o bennill cyfarch a gyfansoddwyd i Robyn gan ei ewythr, Aled Evans, Trisant ar ei lwyddiant.

Llongyfarchion i ti Robyn ar gyrraedd safon a bri,
Eisteddfod Sir Fflint oedd pinacl dy yrfa di.
Dydd Iau ennill y Tenor, Sadwrn cipio'r Rhuban Glas
Gan ymuno â'r mawrion - i brofi dy linach a'th dras.

  • Cliciwch yma i wylio perfformiad Robyn Lyn ar wefan yr Eisteddfod.
  • Llun o Robyn Lyn Evans ar safle'r Eisteddfod

    Trefor Puw
    Trefor PuwLlongyfarchiadau mawr i Trefor Puw, Talwrn Coch, Trefenter, ar ennill Gwobr Goffa Lady Herbert Lewis - am ganu dwy gân werin - yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Sir Y Fflint.

    Mae Trefor wedi dod yn ail yn y gystadleuaeth yma o'r blaen. Mae hefyd wedi ennill yn yr Ŵyl Gerdd Dant dair gwaith yn olynol am y gân werin. Mae'n aelod o Gôr ABC a Chôr Cantre'r Gwaelod. Yn ystod y misoedd yn arwain at y Nadolig a'r tu hwnt mae'n mynd o amgylch yn canu plygain gyda Pharti'r Penrhyn a hefyd gydag Eleri Roberts a Rhiannon Ifans. Mae Trefor yn weithgar iawn gyda'r Ŵyl Gerdd Dant ac ef yw Prif Stiward Gŵyl Gerdd Dant Ystrad Fflur a'r Fro ar 10 Tachwedd.

    Bu Trefor yn Drysorydd Y Ddolen am sawl blwyddyn. Felly pob hwyl gyda'r canu, Trefor, ac unwaith eto, llongyfarchiadau!

  • Cliciwch yma i wylio perfformiad Trefor Puw ar wefan yr Eisteddfod
  • Llun o Trefor Puw ar safle'r Eisteddfod

  • Cyfrannwch
    Cyfrannwch i'r dudalen hon!

    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

    Sylw:




    Mae'r Â鶹Éç yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


    0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh 0
    Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


    About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý