Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Ddolen
Treialon cŵn defaid Trafod cŵn defaid
Chwefror 2009
Hanes anerchiad Martha Morgan o Dregaron i aelodau Cymdeithas Hanes Amaethyddiaeth Ceredigion.

"Braint a mwyniant oedd cael gwrando ar Martha Morgan, Tregaron yn sôn am oes o drin a thrafod cŵn defaid, ychydig o wragedd sydd wedi datblygu'r ddawn ym myd y Treialon. Erbyn heddiw credir fod mwy yn dangos diddordeb ac yn llwyddo i gyrraedd y brig.

Yn ystod y noson cawsom ddarlun cynhwysfawr o'i bywyd fel merch y wlad, ac fel y bu iddi ddatblygu ei diddordeb i fagu ac i ddysgu cŵn defaid.

Teg yw dweud ei bod bron yn ferch y filltir sgwâr. Diffwys, Cwm Berwyn a Throedrhiwlas ger Tregaron.

Erbyn heddiw mae'r terfynau wedi ymestyn gryn dipyn, gan ei bod wedi teithio hyd a lled Cymru a thu hwnt yn ymwneud a threialon cŵn defaid.

"Gwyddom", meddai "fod bywyd a gwaith gwraig y tŷ erbyn heddiw wedi newid. llawer ers dyddiau fy mham. Does yr un wraig heddiw yn codi mawn, godro a llaw, cneifio defaid efo gwellau, crafu a throi gwair â rhaca bach".

Nôl yn y flwyddyn 1985 dim and 2 neu 3 menyw oedd yn cystadlu efo cŵn. Ambell ddyn bryd hynny yn dymuno iddynt fynd nôl adref at y sinc.

Bugail oedd ei thad ai thad-cu. Felly cafodd hithau ei meithrin o'r crud yn sŵn defaid a chŵn. Gorchwyl cyntaf ar ôl oriau ysgol oedd cerdded a bwydo'r cŵn, neu fynd a Juno i gwrsio defaid gwlad allan o dir Diffwys.

Mewn amser cymerodd ddiddordeb i ddysgu ci ifanc i drafod ieir, defaid, neu wyn swci. Yna mentro i dreialon Nant-yr¬hwch a Maesglas. Cofio hefyd cael y fraint i fynd i dreialon yn Rhaeadr. Pryd hynny taith bell, heddiw mae yn agos.

Gydag amser, priodi, gwneud cartref a magu teulu. Dechrau o'r newydd mewn tyddyn, eto ger Tregaron. Saith acer, dwy fuwch a saith o ddefaid. Un o'r plant yn cael anffawd efo un o gŵn y teulu. Ond daeth amser a meddyginiaethau i'r digwyddiad anffortunus. Penderfynu cael ci arall, a dewis ast o'r enw Gel, honno yn dod a hyder newydd iddynt fel teulu. Pawb yn dod dros eu hofnau. Mewn amser daeth y dydd i fynd i dreialon cŵn defaid.

Dechrau yn Nhregaron mewn treialon proffesiynol yn lle rhai amatur. Diwrnod i'w anghofio oedd barn Martha am y profiad. Ond bu perswad y teulu yn gyfrwng i ddal ati a mentro I'r Bont, lle'r oedd y cae yn llai. Cael gwell hwyl ac ychydig o ganmoliaeth.

Ymlaen wedyn I Dreialon Meithrin, er mwyn cael mwy o brofiad, hynny yn arwain i lwyddiant. Ennill cwpan Man and Dog yn Llangeitho. Pethau yn dechrau gwella erbyn Haf 1987. Mynd i dreialon dau ddiwrnod yn Newbridge, dod adref wedi ennill gwellaif am ei hymdrechion.

Erbyn hyn roedd pobol yn dangos diddordeb yn ei chŵn ac am gael cŵn bach oddi wrth Gel. Dysgu'r cŵn sydd yn rhoddi mwyaf o bleser i Martha. Mae ei gŵr. Glyn hefyd yn dangos diddordeb. Ef sydd yn dysgu'r cŵn i gerdded efo rheolaeth ac ufudd-dod. Mae pob ci yn wahanol. Rhaid iddynt gael eu trafod felly.

Cymer bymtheg mis neu ragor i bethau ddechrau siapo. Nid bach o beth yw mynd a chi am y tro cyntaf. I'r Sioe fawr yn Llanelwedd. Onid yw popeth a phawb yn ddieithr iddo.

Mae gan bob ci ei gryfder ai wendidau, gwaith bugail yw cyfarwyddo a gwella'r diffygion. Rhaid i gi gael clust dda, nid rhwydd yw clywed o bell ac yn erbyn y gwynt, ac ar fynydd agored neu mewn sioe fawr amaethyddol. Rhaid iddo beidio â stopio pan fydd of eisiau, dim and pan fydd yn cael y gorchymyn iawn. Pleser yw cael ci sydd yn didoli ac sydd yn dal llygad dafad. Rhaid cael ci sydd yn dangos parch ac yn gryf gan fod rhai defaid yn bur ystyfnig ac yn benstiff.

Gwyddom erbyn hyn fod Martha wedi cael cryn lwyddiant ym myd treialon ac wedi mynychu treialon y byd. Wedi cwrdd a nifer fawr o bobl ac wedi gwneud ffrindiau di-rif. Torri tir newydd ym myd treialon cŵn defaid ac mewn byd a fu unwaith yn fyd dynion yn unig.

Dafydd Jenkins, Penpompren oedd yn y gadair a John Jones, Pantcynghorion fu yn talu'r diolchiadau. Nodiadau Anti Sarah, gan y Parch. Stephen Morgan, Trefilan fydd dan sylw yn ein cyfarfod ar y 25 Chwefror 2009. Croeso cynnes."

Erthygl gan Edgar Morgan


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý