Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Ddolen
Lili Wen Fach Tips o'r ardd
Mawrth 2005
Colofn 'O'r Ardd' gan Gwyn Evans.
Mae'r tywydd yn ystod mis Chwefror wedi bod yn ffafriol iawn i'r rhan yma o'r wlad, yn bur wahanol i'r tywydd gaeafol fu yn ardaloedd dwyreiniol y wlad. Mae hyn wedi ein rhyddhau i wneud ychydig o arddio er mai gwlyb yw'r ardd yn gyffredinol.

Gyda'r tywydd mwyn rydym wedi ei gael drwy gydol y gaeaf mae'r blodau fel y Genhinen Pedr wedi blodeuo yn gynnar. Blodyn cynharaf y flwyddyn rhan amlaf yw'r Lili Wen Fach ond eleni mae'r Genhinen Pedr wedi ei maeddu a dyna'r tro cyntaf erioed rwyf wedi gweld hyn yn digwydd.

Hefyd o amgylch Tyncoed rwyf wedi gweld rhai briallu yn dangos eu trwyn - hyn eto yn anghyffredin - diwedd mis Mawrth yw adeg briodol y Friallen. Yn ystod y blynyddoedd olaf yma mae rhyw brinder o'r Lili Wen Fach. Nis gwn am unrhyw reswm am hyn ond eleni mae'r Lili Wen Fach yn tarddu allan ymhobman ac mae yn bleser i'w gweld mewn niferoedd unwaith eto.

Cefais gwestiwn yn ddiweddar ar sut i ofalu ar ôl Lili'r Ffagl ('Red Hot Poker' yn Saesneg - kniphofia yw'r enw botanaidd). Yn ei faes ei hun a phan yn blodeuo mae hwn yn brydferth iawn ac yn sefyll allan fel brenin yr ardd ond fel llawer o blanhigion eraill gall fynd yn flêr yr adeg hon o'r flwyddyn. Enw Saesneg arall ar y planhigyn yma yw 'Torch Lily' a rhaid dweud bod enw prydferth ar y planhigyn yma boed yn Gymraeg neu Saesneg.

Pan fo'r blodau yn gwywo ymaith torrwch nhw i ffwrdd hyd at y gwaelod. Mae hyn yn hyfforddi rhagor o flodau i gynyddu. Yn ystod mis Tachwedd a Rhagfyr clymwch y dail gyda'i gilydd a chordyn. Pwrpas hyn yw rhoi amddiffyniad i'r gwreiddyn ac i ddwyn rhagor o flodau y tymor nesaf. Nid yw'n addas i dorri dail ymaith ond nid yw hyn yn eich rhwystro rhag glanhau'r dail, tynnu ymaith y dail pydredig ac yn y blaen. Clymwch y dail iach at bolyn ysgafn yn gynnar yn yr Haf (diwedd Mai), rhowch wrtaith a mawn o amgylch y planhigyn - palwch i'r pridd yn ysgafn a rhowch 'liquid feed' iddo, bob pythefnos i gael y gorau allan o'r planhigyn.

Mae llawer math o arddio, ac mae hyn wedi cynyddu yn aruthrol dros yr ugain mlynedd diwethaf yma. Yn yr oes hon mae'r lawnt wedi dod yn boblogaidd iawn fel gardd. Mae llawer iawn o waith gyda'r math yma o arddio dros dymor y tyfiant, ond dim llawer o gynhaliaeth at achosion y tÅ·.

Mathau eraill o arddio yw'r casgeini a'r bocsys ffenestri a'r basgedi ac yn y blaen ond am y tro rwyf am aros gyda'r garddio traddodiadol. Dyna'r unig ffordd o arddio oedd cyn yr ail ryfel byd ac yn yr oes honno, hunan gynhaliaeth oedd y nod. Cefais fy ngeni yn gynnar yn y tridegau pan oedd gwasgfa aruthrol ym myd amaethyddiaeth a phan oedd arian yn brin iawn.

Nerth yr ardd a'r tir oedd yn ein cadw ni i fynd. Rwyf yn gobeithio na ddaw oes y tridegau yn ôl eto i darfu ar ein ffermwyr, er bod y rhagolygon presennol yn arwain i'r cyfeiriad yma. Rwyf wedi bod yn ffodus fod garddwyr gennyf yn fy nheulu; roedd gennyf un ewythr oedd yn byw yn gyfangwbl ar fasnach ei ardd gyda chynhorthwy ei chweugain pensiwn yn yr oes honno. Roedd cyfnod y rhyfel yn galed iawn, y rhan fwyaf o'r nwyddau o dan y cownter a dim goruwch. Sut byddai hi heddi' tybed pe deuai'r oes yna yn 6ôl am fis neu ddau? Newyn mawr, yn fy nhŷb i!

Cefais fy nysgu yn yr ysgol sut i arddio ac mae yn drueni nad yw hyn yn bod yn yr oes hon.Mae adeg garddio traddodiadol ar ben y drws a phan fo'r ardd yn caniatau, plannwch eich sets winwns. Mae'r winwns angen tymor hir i dyfu ac i gynhyrchu ei fwlb felly y cynharaf y plannwch, gorau gyd. Nid yw'r rhew yn gwneud dim drwg i'r rhain. Mae winwns coch wedi dod yn boblogaidd iawn gan eu bod yn fwy tyner na'r rhai melyn. Mae'r 'Red Barron' yn wych os am roi tro ar eu tyfu. Mae rhestr o winwns erfeddi yng nghatalog Marshalls ac o safon gwych.

Ar ôl hyn rhaid meddwl am blannu'r tatw, yn enwedig rhestr neu ddwy o datw cynnar. Cofiwch, y cynharaf y rhowch y rhain i lawr, mwya o guddio bydd eisiau rhag y rhew, gan fod y daten yn dal dim rhew. Mae yna lawer math o datw cynnar ar y farchnad, rhai ohonynt yn gwneud yn well mewn gwahanol ardaloedd. Mae'r 'Home Guard' a'r 'Aran Pilot' a'r 'Sharp Express' yn dal eu tir, ond y rhai mwya' blasus i'w plannu yn gynnar yw'r 'Rocket', 'Suttons Foremost' a'r 'Swift'. Mae'r 'Swift' yn cynaeafu tua deg diwrnod o flaen y rhai eraill - gwrysg byr ond yn cynaeafu'n dda. Mae rhai ar gael yn y canolfannau yma ac yng nghatalog Marshalls.

Cyn hau dim rhaid paratoi, a nawr yw'r amser i wneud hynny. Wrth ddefnyddio gwrtaith, gofalwch na ddefnyddiwch wrtaith sy'n cynnwys silwair. Mae hwn yn wenwyn i'r ddaear ac yn cynyddu lefel asid y pridd a gall ddenu firws o bob math i'r tir. Gwrtaith hen a phur sydd eisiau arnoch ac os nag yw hyn ar gael defnyddiwch hen ddail coed. Pob bendith arnoch ym myd garddio am y tro.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý