Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Ddolen
India Dyddiadur o Wlad Bell: Rhan 2
Medi 2006
Ail ran o ddyddiadur Emma Lionel o Benrhiw, ar ei thaith i'r India.
Mis Mai wedi hedfan heibio gyda phopeth sydd wedi bod yn mynd ymlaen. Athro Daearyddiaeth 'di gofyn i ni siarad â dosbarth naw am wledydd Ewrop a'u heconomïau - Helen na fi a dim syniad am beth i siarad felly bu'n rhaid i ni fynd i lyfrgell yr ysgol i ffeindio rhywbeth.

Ffeindiais i lyfr cyfan ar Gymru yn llawn traddodiadau a hanes y wlad a hyd yn oed lluniau o Aberystwyth! Penderfynais ddangos y llyfr i'r plant. Yr wythnos ganlynol cawsom ein gwahodd i siarad eto. Y tro hwn i siarad amdanom ni ein hunain, trafod y rhesymau i ni ddod i India i weithio a thrafod ein bwriadau ar gyfer y dyfodol - hyn oll er mwn ceisio ysbrydoli'r plant! Roedd y sgwrs hon yn rhan fechan mewn nifer o weithgareddau oedd yn mynd ymlaen dros y penwythnos i'r blynyddoedd hÅ·n.

Roedden nhw i gyd yn aros yn yr ysgol dros nos ac yn gwylio ffilmiau, rhannu storïau, jôcs a thalentau a chwarae gemau. Roedd y plant iau yn cael mynd am bicnic am y dydd! Fe es i gyda blwyddyn 3 a 4 i barc mawr heb fod yn rhy bell o'r ysgol. Eisteddon ni i gyd i lawr i fwyta ac wedyn buon ni yn chwarae gemau am weddill y pnawn; bues i'n chwarae criced a phêl droed gyda'r bechgyn a 'duck, duck, goose' gyda'r merched.

Roedd yna 'Mela' ymlaen yn nheml Dungri am dridiau yng nghanol y mis. Gŵyl Hindwaidd yw'r Mela pryd maen nhw'n addoli'r duwiau. Roedden nhw'n aberthu geifr yn y bore ac yn y pnawn roedden nhw yn addoli'r duwiau gyda cherddoriaeth. Byddai'r dynion i gyd yn dawnsio'r ddawns leol tra bod y menywod yn eistedd a gwylio. Cafodd byfflo ei aberthu ar y diwrnod olaf. Roedd yna lawer o stondinau yna yn gwerthu pob math o bethau.

Roeddwn ni wedi gwneud ffrindiau da gyda'r athrawes feithrin, roedd ei gŵr hi newydd agor tŷ^ coffi yn Hen Manali ac wedi gofyn i mi beintio tri addurn wal i roi i fyny yn, felly fe dreuliasom y penwythnos yn creu'r rhain gyda phaent ar ddefnydd. Fe wnaethon ni dri llun - cwpan coffi, llaw a llygaid - gan ddefnyddio patrymau mehendi i greu'r lluniau. Cawsant eu fframio a'u hongian yn y caffi, ac yn ôl Rajan roedd llawer o dwristiaid wedi bod yn tynnu lluniau ohonyn nhw a wnaeth un ferch wario tair awr yn eu copïo ar bapur!

Ar y penwythnos olaf ym mis Mai fe wnaethon ni'r daith pedair awr ar ddeg ar y bws lleol i Shimla i weld un o'r merched eraill oedd yn gweithio mewn ysgol i ferched. Cawsom wythnos fendigedig; mae Shimla yn le braf iawn, dyma oedd canolfan weinyddol India pan oedd y wlad o dan reolaeth y Raj Prydeinig. Roedd y tywydd yma'n llawer mwy ffafriol i'r Prydeinwyr ac roedd yr ymdeimlad Prydeinig yn amlwg yma - roedd hi'n anodd dychmygu eich bod yn India o gwbl!

Ar y penwythnos cyntaf ym mis Mehefin cawsom bicnic staff. Aethon ni i gyd i aros dros nos mewn lle o'r enw Kothi a oedd tuag awr i ffwrdd. Cafodd y noswaith ei threulio yn bwyta, canu, dawnsio a chwarae gemau! Trannoeth roedd gennym ddewis naill ai aros yn Kothi a mynd am dro o amgylch y dre neu i fynd i fyny Bwlch Rhatang. Fe benderfynais fentro'r bwlch a dringo pedair mil o droedfeddi i gyrraedd rhyw lyn oedd yng nghanol y mynyddoedd. Dim ond pump ohonom aeth ar y siwrnai - y dirprwy brifathro a'i ferch, dau athro chwaraeon a minnau. Cawsom ddiwrnod gwych er i ni gael siom o beidio â chyrraedd y llyn - roedd y glasier yn rhy beryglus i'w chroesi.

Treuliasom y bythefnos olaf yn mynd o dÅ· i dÅ· yn swpera gyda phobl oedden ni wedi dod i adnabod dros y pedwar mis a chawsom ambell i wers goginio! Fe wnaethon ni hefyd benderfynu addurno darn o wal neuadd yr ysgol, murlun o ddinosoriaid!

Wel daeth y pedwar mis i ben. Roedd hi'n drist gadael yr ysgol, y plant a'r holl ffrindiau newydd roedden ni wedi dod i'w hadnabod mor dda. Roedd yn deimlad gwa¬hanol iawn i adael adre oherwydd gwyddwn ymhen pum mis y buaswn yn gweld fy nheulu a ffrindiau unwaith eto ond yma doedd gen i ddim syniad a welwn i fy ffrindiau newydd byth eto. Er hynny, roedd y rhan fwyaf cyffrous o'r daith i ddod.

Fe aethon ni gyntaf i Amritar i weld y Deml Euraidd ac yna i Agra i weld y Taj Mahal. Hedfan wedyn i Kerela sydd reit yn ne India, treulio wythnos a hanner yma yn teithio o gwmpas a chael cyfle i aros ar gwch yn y cilfachau, gweld ras cychod nadroedd ac eistedd ar y traeth er nad oedd hi'n braf iawn gan ei fod yn dymor y monsŵn! Yna mlaen i Goa gan dreulio wythnos yn ymlacio, tylino'r corff a gwylio Katakali - dull o adrodd stori trwy ddawns gan ddefnyddio symudiadau dwylo, wyneb a llygaid. Hedfan yn ôl o Delhi wedyn a symud ymlaen i Rajastan am yr wythnos olaf, wythnos brysur yn gweld yr holl olygfeydd, gwneud lot o siopa, mynd ar daith camel a gwario noswaith yn yr anialwch, cyn dal trên nôl i Delhi am y tro olaf a hedfan adref!


Cyfrannwch

Alaw
Waw!Diddorol!x
Sun Oct 26 17:11:29 2008

Sian o Aberteifi
Waw!Swnio fel bod ti wedi cael amser ffab!
Mon Nov 20 12:46:58 2006


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r Â鶹Éç yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý