Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Ddolen
Y Trigain Mlynedd Hyn
Medi 2005
Yng ngholofn fisol Y Ddolen o dan yr enw Y Wlad a'i Phobol, mae J. R. Morris yn trafod y newidiadau yn y gymdeithas dros y trigain mlynedd diwethaf.

Wrth fynd yn hÅ·n (ac yn hen!) rwyf yn sylwi ar ddatblygiadau a dyfeisiadau sydd wedi achosi newidiadau rhyfeddol ymhob agwedd o fywyd. Ym myd ffermio mae sylw hyd at syrffed i'r gair 'organig'.

Ffermio Organig
Trigain mlynedd sydd ers i wrteithiau artiffisial a chemegau ddechrau cael eu defnyddio. Yn ystod y Rhyfel 1939-45 y daeth yr alwad daer i gynhyrchu cymaint ag oedd yn bosibl o fwyd o ddaear Prydain. Cofiaf yr anogaeth i fynnu y gwys nesaf i'r clawdd. Ymatebwyd yn hunanaberthol ond erbyn hyn mae gorfodaeth o dan rhai cynlluniau amgylcheddol i adael llathenni ger y cloddiau i fynd yn wyllt!

Eleni yn y Sioe Genedlaethol roedd yn amlwg bod y bridiau cysefin yn ailennill eu lle. Bridiau y bu bron iddynt ddarfod o'r tir, megis Gwartheg Duon a Gwyn Cymreig, y Byrgorn, y Byrgorn Biff, â'r Gwartheg Hirgorn. Mae yna fuchesi mawr o'r Gwartheg Ayrshire a Jersey yn cael eu sefydlu. Dosbarthiadau yno ceffylau Piebald a Skewbald - ceffylau gan y Sipsiwn.Fe honnir mae'r rheswm pam mai ceffylau amryliw oedd gan y Sipsiwn oedd er mwyn eu gweld cyn y wawr yng nghaeau ffermydd.

Yn y Sioe eleni roedd yna 3,774 o geffylau a merlod ond ychydig dros fil o wartheg. Nid oes ceffylau yn gweithio ar ffermydd erbyn hyn ar wahan i rai gan fugeiliaid. Mae pawb yn achwyn ar brisiau isel cynnyrch ffarm ar hyn o bryd ond mae gwario mawr di-sôn ar geffylau a ponis, eu bwydydd, yr offer, y loriau a'r treilers a dillad y marchogion.

Mecanwaith
Sylwi yn y Sioe hefyd ar y cynnydd mawr mewn peiriannau i lifio a hollti coed ar gyfei au tanau yn y tÅ·. Hefyd enghreifftiau o gnydau i'w tyfu i'w llosgi i gynhyrchu gwres i bwerdai trydan. Mae pris olew yr uchaf erioed. Cofio prynu pedwar galwyn o betrol a chael newid o bunt! Mae yn debygol y bydd petrol a disel yn bunt y litr cyn bo hir yn ein ardaloedd gwledig. 18 ceiniog y litr yw llaeth i'r ffarmwr, a oes rhywyn wedi ystyried defnyddio llaeth yn danwydd i foduron? Mae peiriannau disel yr medri rhedeg ar olew o'r siop chips!

Mewn byd lle mae cynnydd aruthrol yn y defnydd o olew a'r sefyllfa ryngwladol yn ymfflamychol mae yn bosibl y daw prinder, ond mae sôn am dyllu am olew ym Mae Ceredigion! A welwn losgi coed eto yn ein cartrefi?

Prin iawn erbyn hyn yw ffermwyr sydd wedi trafod y bladur a chynaeafu gyda beinder. Diolch am olew a phlastig sydd wedi ysgafnhau y gwaith a sicrhau nad oes difetha na cholled gyda unrhyw gynhaeaf.

Mae yna lawer o ffermwyr weithiodd yn galed i ddiwylltio tir a chael gwared ar eithin, rhedyn a brwyn, heddi yn gweld eu plant yn cael eu talu i'r cyfan fynd yn ôl yn wyllt ac anial! Mae hanner ffermydd yr ardaloedd hyn wedi peidio bod yn fywoliaeth i deuluoedd.

Cofio pobl yn gadael bythynnod i fynd i dai Cyngor oedd â chyfleusterau modern. Tai oedd yn gwerthu am fil o bunnoedd, heddi yn cael eu prynu am ugeiniau o filoedd. Teuluoedd am ddianc, cyflymdra ac anwarineb trefydd i annibyniaeth a tawelwch cefen gwlad. Enghraifft dda yw ardal Ystumtuen. Yn anffodus mae'r mewnlifiad a ffactorau eraill yn difetha y bywyd gwledig cymdeithasol ymhob ardal.

Pan oeddwn yn ifanc ni allwn fforddio car. Fel y rhan fwyaf o gyfoedion yn falch o gael beic neu fotobeic. Yn rhyfedd iawn heddi mae yna lawer sydd 131 swyddi degau o filoedd o bunnoedd y flwyddyn ac yn berchen ceir moethus yn prynu beiciau o bob math a motorbeics i gael teimlo gwefr a rhyddid yr awyr agored. Gallaf ddeall er mae dim ond moto beic ffarm sydd gen i!

³§²úî»å
³§²úî»å yw popeth meddir. Er bod yr awyren Concord yn medru mynd yn gyflymach na sŵn nid yw yn hedfan mwyach. Fe gostiodd fil o filiynau o bunnoedd i'w datblygu a llosgai dros bum mil o alwyni o danwydd bob awr.

Mae'n ymddangos bod y rhan fwyaf o deuluoedd yn hedfan ar draws y byd. Nid oes sôn am y llygredd a achosir, ond mae ceir yn cael eu condemnio. Mae cario un person ar draws yr Iwerydd yn cynhyrchu cymaint o lygredd i'r amgylchedd a rhedeg car am flwyddyn.

Datblygiadau technegol
Trigain mlynedd yn ôl un ciosg teleffon oedd yn gwasanaethu yr ardal hon. Heddi mae ffôn symudol gan bron pob person. Dim ond yn y dref yr oedd sgrîn i ddangos ffilm. Heddi mae sawl sgrin fach ymhob cartref a sgrin fechan mewn pocedi! Mae'r datblygiadau technegol wedi bod yn rhyfeddol. Serch hynny mae safon bywyd wedi dirywio. Rhaid cloi popeth. Collwyd dylanwad crefydd ar fywydau pobol ond diolch serch hynny am gael gwared â pheth o'r gormes rhagrithiol oedd yn bodoli.

Prynodd Davies Llandinam, yr adeiladwr rheilffyrdd a dociau, Westy y Cambria yn Aberystwyth i fod yn Goleg Diwinyddol. Darfu fel Coleg ac mae yn awr yn adeilad aml bwrpas gyda'r enw Cambria. Caewyd, gwerthwyd ac addaswyd cannoedd o addoldai a tenau yw'r cynulleidfaoedd yn gyffredinol. Dylanwad Diwygiad wedi mynd ond mae dyhead am adfywiad i adfer y gwerthoedd. Aeth llawer o Gymry yn genhadon ar draws y byd, heddi mae cenhadon o India yn gweithio yng Nghymru.

Drigain mlynedd yn ôl peth gwarthus oedd mynychu tafarnau. Darfu'r sôn am ddirwest a llwyrymwrthod ag alcohol. Mae llacio cyson wedi bod ar oriau gwerthu'r cyffur. Daeth yr hawl i werthu ar y Sul ac mae bron pob siop fach â thrwydded. Sham yw'r rheol oedran. Ymhen dau fis bydd yna lefydd â'r hawl i werthu alcohol bob awr o'r dydd a'r nos. Mae yna bobol yn Aberystwyth sydd yn arswydo canlyniadau anwaraidd y rhyddid eithafol hwn. A yw'r Bragwyr mawr yn cyfrannu yn hael i goffrau y Blaid Lafur?

Drigain mlynedd yn ôl aeth eroplên o America â bom fach deg troedfedd o hyd a'i gollwng uwchben Hiroshima. Mewn munudau llosgwyd a toddwyd yn fyw ddegau o filoedd o bobol am naw o gloch y bore. O achos y ddwy fom atomig fe gollodd cannoedd o filoedd o bobol eu bywydau oherwydd afiechydon neu dihoeni am flynyddoedd gan effeithiau ymbelydredd.

Ychydig wythnosau'n ôl roedd saith o Rwsiaid mewn argyfwng enbyd mewn llong danfor fechan iawn ar waelod y Môr Tawel. Fe ruthrodd arbenigwyr yno o Brydain gyda offer spesial a'u hachub. Onid yw yn drueni bod y byd yn cael ei reoli gan wleidyddion ac Arlywyddion. Fe ddywedodd Martin Luther King, 'We have guided missiles and misguided politicians'.

Ni fu erioed gymaint o ddatblygiadau mewn trigain mlynedd, anghredadwy bron! A yw'n bosibl rhagweld neu ddychmygu cymaint yn y degawd nesaf? Mae pethau bach fel y camera ffilm, cardiau post a llyfr siecau bron a diflannu. Daeth y dorth heb grwstyn. Oni fyddai yn fyd teg pe bae pawb yn y byd ardderchog yr ydym yn byw ynddo yn cael bwyd a dŵr iach bob dydd.

Erthygl gan J.R. Morris


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r Â鶹Éç yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý