Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Ddolen
Mared Llwyd Awdures ifanc
Chwefror 2010
Hanes nofel gyntaf gan athrawes ysgol gynradd.

Aderyn Brau yw nofel gyntaf Mared Llwyd, athrawes ifanc sy'n dysgu plant Blwyddyn 5 yn Ysgol Gymraeg Aberystwyth sy'n ferch i Mari a Rheinallt Llwyd, Llangwyryfon.

Bu'n gweithio fel athrawes Saesneg yn Norwy ac ar ô1 sawl blwyddyn yn darllen nofelau i'w disgyblion, penderfynodd ysgrifennu nofel ei hun.

Meddai: "Fe fues i'n ysgrifennu yma ac acw yn ystod gwyliau'r ysgol dros gyfnod o tua dwy flynedd. Mae chwech wythnos o wyliau haf yn ddefnyddiol to hwnt i athrawon!"

Mae Mared wedi tynnu oddi ar ei phrofiadau personol yn y nofel. Bu hithau'n ddisgybl mewn ysgol fach wledig, gartrefol fel y prif gymeriad, Megan.

Ond mae byd Megan yn cael ei droi ben i waered pan mae hi a'i mam yn gorfod symud o'r pentref i fyw gyda'i mam-gu yn Abertawe.

0 dipyn i beth, daw Megan yn ffrindiau gyda'r hen ŵr sy'n byw drws nesaf, ac mae'r ddau'n gofalu ar ô1 aderyn bach brau sydd wedi'i glwyfo yn yr ardd.

Daw Megan i sylweddoli bod mwy i fywyd yn Abertawe nag a dybiodd ar y cychwyn.

Mae'r nofel yn trafod pynciau a fydd yn apelio at blant 9 i 13 oed sy'n ddarllenwyr da.

Meddai Meinir Wyn Edwards, un o olygyddion Gwasg y Lolfa: "Mae'n amlwg fod Mared yn adnabod ei chynulleidfa i'r dim. Mae'n ysgrifennu'n fywiog ac mae'r cymeriadau'n dal sylw o'r cychwyn.

Mae perthynas Megan a'r hen ŵr yn annwyl iawn ac ry'n ni'n cydymdeimlo a hi wrth i'w bywyd newid.

" Does ganddi ddim syniad pam adawodd ei thad mor sydyn ac mae ei mam al mam-gu'n cadw rhyw gyfrinach oddi wrthi.

" Mae'r awdur yn codi pynciau pwysig fel cau ysgolion bach, ac effaith tor-priodas a symud ysgol ar blentyn 11 oed mewn ffordd sensitif iawn, Rwy'n siwr y cawn ni fwy o nofelau gwych eraill gan Mared Llwyd."


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý