Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Ddolen
Y brodyr Dau frawd yn cynrychioli Cymru
Rhagfyr 2003
Yr un anrhydedd i ddau frawd ar yr un mynydd.

Daeth y Nadolig yn gynnar i Clifford a Dic Evans, y ddau frawd o Abermagwr, pan gawsant yr anrhydedd o gynrychioli Cymru mewn ras redeg mynydd ym Mhencampwriaeth Meistri'r Byd yn Unterharmersbach, tref fach ynghanol y Fforest Ddu yn Ne-orllewin yr Almaen.

Roedd y ddau'n fodlon iawn gyda'u canlyniadau ar ôl rhedeg yn eu rasys priodol. Mewn rasys o safon uchel yn erbyn rhedwyr o bedwar ban y byd gyda chynrychiolaeth o ddau ddwsin o wledydd daeth Clifford yn 59 yn yr adran 45 oed yn ei ras gyntaf fel aelod o dim Cymru ac yn y ras i'r adran 55 oed diweddodd Dic yn 13eg.

Er bod Dic wedi cynrychioli Cymru dros gant o weithiau roedd y gystadleuaeth yma yn un arbennig i Dic gan ei fod wedi cael y fraint o fod gyda'i frawd pan gafodd Clifford yr anrhydedd o wisgo'r crys coch am y tro cyntaf.

Er i'r rasys fod yn anodd gyda'r rhedwyr yn gorfod dringo dros 2000 o droedfeddi mewn 10km rwy'n siŵr y bydd y ddau yn awyddus iawn i gynrychioli Cymru eto ar ôl profi'r sialens rhyngwladol a chyffrous yma.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý