Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Ddolen
Lyn Ebenezer Hen Å·d y wlad
Mawrth 2007
Bu Lyn Ebenezer yn ŵr gwadd gyda Chymdeithas Hanes Amaethyddiaeth Ceredigion, gan siarad am hen gymeriadau'r Bont.

Ar y noson olaf o Chwefror daeth rhaglen y gymdeithas i ben am y gaeaf yma. Y syndod yw, medd y cadeirydd, fod amser yn mynd heibio mor gyflym. Er hynny braint oedd cyflwyno llais ac wyneb cyfarwydd i bawb, sef Lyn Ebenezer.

Fei ganwyd yn y Bont (Pontrhydfendigaid) yna byw yn Aberystwyth am gyfnod gan ddychwelyd yn ôl at ei wreiddiau. Braf felly sylweddoli fod pentref gwledig yn elwa, yn lle gweld pawb yn mynd i'r trefi neu'r dinasoedd.

Testun y noson oedd `Hen ŷd y Wlad'. Storïau a sylwadau am yr hen gymeriadau. Y rhai hynny a dreuliodd rhan helaeth o'u hoes o fewn ei milltir sgwâr. Credai Lyn fod y pentref wedi dylanwadu yn gryf ar ei fywyd. Creadigaeth bentrefol, rhywbeth sydd yn aros gyda dyn drwy ei oes. Roedd yno ryw fath o gystadleuaeth barhaol. Yr afon yn rhannu'r pentref yn ddau blwyf, Gwnnws a Charon, felly ar faes neu lwyfan, ni yn eu herbyn nhw, oedd y drefn, a ni oedd y gorau bob amser, meddai Lyn!

Yna cawsom ychydig hanes rhai o gymeriadau mawr y Bont. Pobol fel Dic Bach, mawr ei faint, a mawr ei ddylanwad. Pawb yn teimlo'n ddiogel yn ei gwmni. Ef oedd brenin y Bont.

Llu o atgofion am deithio milltiroedd, pryd hynny mewn hen Austin 16. Weithiau i chwarae chwist, gweld dramâu, cyngerdd neu eisteddfod. Llawer o hwyl a thynnu coes. Ar adegau nifer o'r arwein¬yddion yn cael amser caled. Y cyfan yn adlewyrchu hiwmor iach cefn gwlad, heb ddim atgasedd.

Ailadrodd stori mwnci Ffair-rhos a hefyd am angladd mwnci'r Bont. Tomos y Crydd yn mentro mor bell â Llundain mewn Austin 7, yntau'n credu fod Llundain yn bell o bob man.

Gwraig o'r enw Martha yn mynd i Lundain am bythefnos, ac yn synnu fod plant bach wedi llwyddo i ddysgu siarad Saesneg. Cymwynaswr arall yn cynnig lifft i hen ffrind ar ei ffordd am Strata. `Na' meddai, 'mae arnaf hast i ddal y trên'.

Wrth edrych yn ôl, pentref caredig yn llawn croeso oedd y Bont. Ni fyddai neb yn cael ei droi ymaith. Byddai bob tincer neu dramp yn cael croeso bob amser. Byddent oll yn hoff o ddychwelyd i'r Bont.

I gloi'r noson cawsom ychydig o hanes rhai o hen gymeriadau lliwgar tref Aberystwyth. Ond yn sicr ddigon, pobl y Bont oedd arwyr mawr Lyn. Erbyn heddiw mae Lyn yn un ohonynt!

Marged Phillips fu yn gyfrifol am dalu'r diolchiadau cyn i'r drafodaeth droi tuag at ein cyfarfod blynyddol. Yn unfrydol penderfynwyd ailethol y swyddogion presennol, i barhau am flwyddyn arall. Ein diolch i bawb am gefnogi'r gymdeithas. Dyma grynodeb o'r Swyddogion: Llywydd - J.R. Morris Llanddeiniol; Cadeirydd - Ieuan Parry Llanfarian; Is gadeirydd - Dafydd Jenkins Talybont; Ysgrifennydd - Edgar Morgan Llanilar; Trysorydd - William Evans Felin-fach.


Cyfrannwch

W J Jones o Gaerdydd
Tybed a ydy Lyn Ebenezer yn rhy ifnc i gofio am Bonaparte? Lrwsyn Teify Pools oedd ei enw arall, cipar i Lord Nelson ac yn byw ar gyflog fain. Yn y gaeaf byddai Lewis yn gwneud polion o goed a gâi gan ffermwyr ar gyfer ffensio, hyn pan oedd yn byw ym Maes-llyn. "Gwna bolion" medd rhyw hen wag ac aeth hwn yn Napoleon gan ei fod yn Lewis "Napoleon" ac i dorri hyn i lawr cafodd yr enw Bonaparte gan lawer.


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r Â鶹Éç yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý