Mae Clwb Ffermwyr Ifanc Cymru yn cynnal yr unig Eisteddfod ddwyieithog yng Nghymru, sy'n golygu bod gan bob un o'n haelodau gyfle cyfartal i gymryd rhan ar y llwyfan.
Mae'r aelodau'n cystadlu mewn rowndiau rhanbarthol am le yn Eisteddfod Genedlaethol Clwb Ffermwyr Ifanc Cymru. Mae'r Eisteddfod yn cynnal amrywiaeth o gystadlaethau, o unawdau a llefaru'n unigol i gystadlaethau grwp megis y côr.
Hefyd, ceir llawer o gystadlaethau ysgafngalon megis y ddeuawd doniol.
I'r rhai nad ydynt mor hyderus ar y llwyfan, mae cystadlaethau oddi ar y llwyfan ar gael ar gyfer ysgrifenwyr ac arlunwyr.
Eleni, cynhelir yr Eisteddfod yn Sinema Brynaman ar 22 Tachwedd i ddechrau am 11 y bore. Pris mynediad fydd £5 i oedolion a £3 i blant a'r henoed.
|