Wedi gadael ysgol ym 1919 yn 12 mlwydd oed ni chafodd rhagor o addysg ffurfiol tan iddo ymuno yn 1997 â chwrs Gloywi Cymraeg o dan nawdd Coleg y Brifysgol Abertawe. Yn ddiweddarach y mae Davy wedi bod yn astudio sut i ddefnyddio'r cyfrifiadur ac erbyn hyn y mae yn anfon e-bost i'w wyres yn Y Wyddgrug ac i'w fab yng nghyfraith yn y Swistir. Fel cydnabyddiaeth o'i lwyddiant mae Davy Jones wedi ennill Gwobr Dysgwyr Hŷn Age Concern Cymru am 2004. Derbyniodd Eleri, ei wyres, y wobr ar ran ei thatcu mewn Seremoni Gwobrau Wythnos Addysg Oedolion yn Theatr Brycheiniog, Aberhonddu ar 17 Mai. Yn anffodus, oherwydd afiechyd nid oedd Davy wedi gallu derbyn ei wobr yn bersonol. Meddai Davy, "Mae'r cyfrifiadur yn fy nghartref yn bendant wedi gwneud bywyd yn fwy cyffrous. Efallai fod rhai yn teimlo, a minnau yn 97 oed, bod fy nyfodol y tu cefn i mi, ond o gael iechyd hoffwn barhau i ddefnyddio'r cyfrifiadur i ehangu fy ngorwelion." Llongyfarchiadau i chi Davy, yr ydym mor falch o'ch llwyddiant a rydych yn esiampl i ni i gyd. Nid yw hi fyth yn rhy hwyr i fentro ac i ddysgu. Hywel Davies.
|