Mae'r grŵp hwn, dan arweiniad a chyfarwyddyd Peri Thomas, yn cwrdd yn y Ganolfan Gymunedol. Ar hyn o bryd maen nhw'n gweithio ar brosiect "Strangers" sy'n cyslltu pobl ifanc o wahanol wledydd gan roi cyfle idynt rannu gwybodaeth am eu treftadaeth â phobl ifanc o wledydd eraill drwy gyfrwng drama a ffilm. Mae hwn yn brosiect rhyngwladol ac mae'r grŵp sy'n cwrdd ym Mrynaman mewn cyslltiad â grwpiau yn Slough a Seland Newydd. Er mai ym Mrynaman maen nhw'n cwrdd mae'r grŵp hefyd yn cynnwys pobl ifanc o'r pentrefi cyfagos.
Ar nos Iau, 20 Rhagfyr, buont yn cymryd rhan mewn cyfarfod a gynhaliwyd yng Nghlwb Rygbi Cwmgors, a drefnwyd gan Cymunedau'n Gyntaf, lle roedd grwpiau lleol yn trafod eu gwahanol brosiectau dros luniaeth tymhorol.
|