Dyw hyn ddim yn newydd iddo, wrth gwrs, gan ei fod eisoes wedi ennill fel cyfansoddwr "Cân i Gymru" ddwywaith, gyda "Cam nesa" a "Rhyw ddydd." Mae hefyd wedi cyfansoddi caneuon wedi'u hanelu at hybu iechyd a diogelwch plant. Rhyw ddeng mlynedd yn ôl cyfansoddodd gyfres o ganeuon a ddefnyddir gan Heddlu Dyfed Powys ar ddiogelwch y ffyrdd, ac yn ddiweddarach bu'n rhan o brosiect Y Cynulliad yn paratoi ymgyrch gwrth-smygu i blant, -"Cledwyn a mwg y Ddraig" a'i ganeuon bachog, ystyrlon yn anelu at wneud ysmygu yn wrthun i bobl ifainc. Tra'n gweithio gyda'r Cynulliad a'r prosiect ar gyfer ysgolion, roedd Paul yn ymwybodol fod yna le i ganeuon newydd ar gyfer plant. Felly, aeth ati i gyfansoddi casgliad o ganeuon newydd sbon yn ymwneud â theimlad, symud a mynegiant. Teitl y cryno ddisg yw "Canu, dysgu, dyna sbri, Dyma' ch cyfle, ffwrdd a chi" Disgrifir y caneuon newydd, gwreiddiol yma fel rhai "addysgiadol a difyr" gan athrawon a rhieni a thrwyddynt anogir plant i gymryd rhan yn y llu o weithgareddau a ddarperir ym mhob cân. Cred Paul fod cael sbri yn rhan bwysig o'r broses ddysgu, ac mae'r caneuon hyfryd yma yn rhoi cyfle i'r plant fynegi'u hunain drwy symud, yn ogystal â gwella sgiliau cerddorol a geirfa.Gyda'r CD bydd llyfryn yn cynnwys geiriau pob cân. Yn y dyfodol bydd Paul yn cynhyrchu CD, un yn y Gymraeg ac un yn Saesneg, ohono ef yn canu'r caneuon yma, ond cyn hynny, mae ganddo brosiect diddorol ar y gweill yn paratoi CD yn cynnwys cyfraniadau cerddorol gan ysgolion cynradd lleol y dalgylch yma. Bu'r ymateb yn arbennig o dda, ac erbyn hyn mae'r ysgolion cynradd lleol wedi recordio'r caneuon (un gân yr un) a bydd y CD arbennig yma ar werth cyn bo hir. Dymuna Paul ddiolch i'r ysgolion am eu gwaith paratoi yng nghanol eu holl brysurdeb, a dymuna ddiolch hefyd i gwmnïau lleol fu mor hael yn noddi'r fenter. E.D
|