Wedi gormes hir a chaled, fe gipiwyd pencampwriaeth Adran 5 Gorllewin Undeb Rygbi Cymru ganddynt.
Sefydlwyd y clwb 'nôl yn 1911 ac er ennill dyrchafiad sawl tro yn yr hen Undeb Rygbi Gorllewin Cymru a chael dyrchafiad ddwy waith drwy ail drefnu'r gynghrair, dyma'r tro cyntaf i'r clwb ennill y bencampwriaeth a dyrchafiad trwy eu hymdrechion hwy eu hunain.
Ar y daith enillwyd 22 gêm a chollwyd dim ond dwy. Sgoriwyd 744 o bwyntiau gan ildio ond 174 yn rhoi gwahaniaeth o 570 - y gorau yng Nghymru eleni. Croeswyd y llinell am 103 o geisiau gan ildio ond 23; yn tanlinellu fod yr amddiffyn llawn mor gadarn a chywirdeb yr ymosod. O'r cyfanswm hwn sgoriodd y cefnwr Grant Williams 301 o bwyntiau ac er cystal yw'r gamp hon sgoriodd fwy y llynedd ond chwaraewyd mwy o gemau.
Er enwi un chwaraewr mae e' ond yn un mewn carfan gadarn sydd wedi perfformio' n llwyddiannus trwy gydol y tymor. Mae'r garfan yn gymysgwch o `hen bennau' (yn aml ar bâr o goesau sy'n hynach) a ieuenctid sydd wedi asio â'i gilydd yn hyfryd
oddi ar y cae yn ogystal ag arno. Yn wir, wrth gyfeirio at y bois ifanc hyn mae' n werth tynnu sylw at y ffaith fod bron hanner y tîm wedi chwarae ochr yn ochr ers eu bod yn wyth mlwydd oed.
Y gwir yw fod Clwb Tycroes heddiw yn elwa ar y system o greu chwaraewyr o dalent lleol trwy roi'r cyfleusterau a'r hyfforddiant yn gynnar yn eu bywydau. Mae 'Academi Tycroes' yn cynnwys pum carfan ifanc sef - dan 9, dan 10, dan 11, dan 13 a dan 14. Mae pwyllgor cryf yn datblygu'r rhan bwysig hwn o'r clwb ond mae bob amser angen mwy o rieni i weithio ar ddiwrnodau'r gemau (bore Sul gan amlaf) ac i gynorthwyo gyda rhedeg a hyfforddi'r rhan werthfawr yma o'r clwb.
Pwy a ŵyr, efallai ymhlith y ieuenctid sy'n chwarae i Dycroes heddiw y daw sêr y dyfodol a fydd yn chwarae gyda'r Sgarled neu'r Gweilch. Nid yw'n amhosib y gall rhai ohonynt fod yn sêr y tîm cenedlaethol. Pwy a ŵyr? Un peth sy' n sicr, mae Clwb Rygbi Tycroes yn gwneud eu gorau i ddarparu'r cyfleusterau a'r cyfleoedd i geisio gwireddu'r freuddwyd hon.
Wrth gwrs mae'r ymdrechion yma i gyd yn gostus ac i'r diben hwn rydym yn ddiolchgar i'n noddwyr a'n cefnogwyr sydd wedi'n cefnogi ar hyd y blynyddoedd. Wrth ddiolch iddynt hoffwn estyn croeso mawr i noddwyr a chefnogwyr newydd i ymuno â ni i wella ar y cyfleusterau ac i sicrhau fod 'na ddyfodol i rygbi yn y gymuned. Dewch yn llu i flasu croeso'r clwb ac i brofi'r pleser o weld ieuenctid (a rhai yn hynach) yn rhoi gwledd wrth chwarae ein gêm genedlaethol.
|