Tra'n gwneud ei debut gyda Chwmni Opera Cenedlaethol Cymru sdim dwywaith amdani - Fflur Wyn oedd seren y noson. Perfformiwyd Jephtha gan Handel, nid opera draddodiadol ond oratorio mewn gwisgoedd.
Cymeriad o Lyfr y Barnwyr yn yr Hen Destament yw Jephtha, ac fe'i ddewiswyd gan yr Israeliaid i'w harwain yn y frwydr yn erbyn yr Ammoniaid. Mae Jephtha yn tyngu, os bydd iddo lwyddo, y bydd yn aberthu'r creadur byw cyntaf y daw ar ei draws ar ôl dychwelyd. Pan ddaw Jephtha adref o'i goncwest, yn anffodus iddo fe, ei unig ferch, Iphis sy'n ei groesawu. Mae Jephthayn cyfaddef y llw a dyngodd cyn mynd i'r frwydr, ac wrth reswm mae'r gymuned gyfan yn arswydo wrth feddwl am aberth greulon
Iphis.
Ond, diolch i'r drefn, daw angel i lawr o'r nef i ryddhau Iphis o'i dedfryd, ond mae'n mynnu y dylai hi dreulio gweddill ei hoes yn ddiwair. A rhan y ferch Iphis a bortreadwyd mor ddeheuig gan Fflur.
Hon oedd oratorio olaf Handel a thra'n ei chyfansoddi dirywiodd ei iechyd. Effeithiodd ei ddallineb ar waith y cyfansoddwr, ond llwyddodd i adennill digon o'i olwg i allu gorffen y cyfansoddiad. Fe gafodd yr oratorio ei pherfformio am y tro cyntaf yn Covent Garden ym 1752.
Mae llais y ferch ifanc o Frynaman yn gweddu i'r dim i gerddoriaeth Handel, a chafwyd perfformiad hynod o sensitif ganddi ar lwyfan Canolfan y Mileniwm. Swynwyd y gynulleidfa gan ei llais pur a'i dehongliad o'r ferch ifanc Iphis. Yn ddi¬-os hi dderbyniodd y gymeradwyaeth fwya' gyda llawer yn dweud brysied y dydd y bydd yn ôl gyda'r cwmni.
Mae'r cynhyrchiad wedi ei osod yng nghyfnod yr ail ryfel byd yn hytrach na'r Hen Destament. Bydd Jephtha yn mynd ar daith i Birmingham, Briste, Milton Keynes a Lerpwl, ond y perfformiad olaf yn Theatr y Grand Abertawe ar 12 Ebrill.
|