Disgleiriodd doniau disgyblion Ysgol Gymraeg Rhydaman wrth iddyn nhw gyflwyno golygfeydd o lyfrau ffantasi, arswyd ac antur Brenin llenyddiaeth plant Cymru. Roedd T. Llew Jones yno ar y noson gyntaf i fwynhau'r perfformiad ac roedd yn amlwg wrth ei fodd. Mae T. Llew yn hen ddatcu i Mari a Dafydd Llywelyn, y ddau yn ddisgyblion yn yr ysgol a chawson nhw'r cyfle i gyflwyno anrheg iddo ar ran yr ysgol. Yn ogystal â hyn cyflwynwyd tri englyn iddo o waith y cyn Archdderwydd, y Prifardd John Gwilym Jones gan gadeirydd llywodraethwyr yr ysgol Mrs Jean Huw Jones. Nid plant yn unig a ymddangosodd ar y llwyfan, cafwyd perfformiad gwych gan un rhiant dewr Mr Sion Woods sef Ysbaddaden Bencawr a bu cymeradwyaeth frwd iddoo'r gynulleidfa. Diolchiadau hefyd i Mrs Karen Davies a Mrs Llio Silyn am eu cyfraniadau gwerthfawr ac i Ruth Bevan am lunio'r sgript ac i bawb a gyfrannodd tuag at lwyddiant y noson. Yr oedd y perfformiadau llwyddiannus yn ganlyniad anrhydeddus ac yn coroni cydweithio ardderchog rhwng disgyblion, staff a rhieni'r ysgol.
|