Bu dros saith deg o blant Blwyddyn 6 a 7 yn cyd-weithio ar y cynllun yn datblygu sgiliau allweddol a chymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau.
Cafwyd sesiynau megis datrys problemau, gweithio o dan bwysau, rhesymeg, llafaredd ac arweinyddiaeth bob mis yn yr ysgol gyfun. Yn ogystal â hyn, trefnwyd taith breswyl i'r disgyblion yng Nghanolfan yr Urdd yng Nghaerdydd er mwyn cynnig cyfleoedd dysgu tu allan i'r ystafell ddosbarth.
Daeth y disgyblion at ei gilydd o un ar ddeg ysgol gynradd y cwm i ymuno â disgyblion Dyffryn Aman. Cydweithiodd yr ysgol gydag athrawon cynradd yr ardal, Gwasanaeth Ieuenctid Sir Gâr a Gyrfa Cymru ar yr amryw weithgareddau. Fe fydd y cynllun yn parhau y flwyddyn nesaf ar ôl i ddisgyblion Blwyddyn 6 ddechrau yn eu hysgol newydd.
|