Heddwas yw Bryan Smith yng nghanol Dinas Abertawe ac mae'n byw yn Heol y Brenin, Llandybie gyda'i wraig Donna a dau o blant bach. Bues gyda Bryan yn siarad am yr her ac wrth gwrs y cwestiwn cyntaf a ofynnais iddo oedd "Paham"? Darllenodd am yr her ym mhapur Sul y Telegraph a chan fod ganddo brofiad o aeaf yn Alaska roedd darllen am y ras yn cynnig cyfle iddo i fynd ar antur i Begwn Magentic y Gogledd - un o lefydd mwyaf anghysbell Hemisffer y Gogledd - roedd siawns hefyd i gasglu arian i elusen Antony Nolan. Beth am y daith? Man cychwyn y daith yw Resolute (neu Kavjuitoq yn iaith y brodorion lleol) ar ynys Cornwallis ar yr 22ain o Ebrill. O'r fan hyn mae 380 milltir i'w gerdded, dros fôr rhewedig yn bennaf i Isachsen ar ynys Elef Ringnes. Un ar bymtheg o dimau sydd yn y ras gyda thri aelod i bob tîm. Bryan yw'r unig gystadleuydd o Gymru a Bryan fydd y Cymro cyntaf erioed i godi'r Ddraig Goch uwchben pegwn Magnetic y Gogledd! Pa fath o offer sydd gennych? Cludir yr offer ar slediau plastig a elwir yn Pulks - tebyg iawn i'r slediau a dynnir gan blant yr ardal ar ôl cwymp fawr o eira- ond tipyn yn fwy ac yn gryfach! Cysgu mewn pebyll arbennig wnawn gan goginio ar stof Naptha. Bydd y babell yn eithaf cynnes pan yn coginio ond unwaith bydd y stof yn mynd allan bydd y tymheredd yn cwmpo i 31 C o dan y rhewbwynt. Gwisgir dillad addas wrth reswm - ond dim gormod oherwydd nid ydynt am chwysu gormod gan fyddai'r chwys yn rhewi tu fewn y dillad ac felly byddai'r dillad yn drymach ac yn llai effeithiol. Byddant yn cerdded ar sgîs mewn esgidiau sy'n medru gwrthsefyll tymheredd o 100 C o dan y rhewbwynt. Bydd Bryan yn gwisgo het arbennig o groen Caribw a blew coyte - het a wnaethpwyd iddo pan oedd yn Alaska gan un o frodorion Canada. Am fwyd? Pasta, reis, uwd, salami, caws, snaciau megis cnau, losin, ffrwythau sych. Bydd bagiau o fwyd i bob dydd - yn cynnwys brecwast snaciau a phryd nos. Cludir bag bwyd y dydd tu fewn y dillad gan ddatleth yn araf ac arbed amser. Bydd hefyd yn defnyddio llawer o olew olewydd oherwydd rhaid iddynt gymryd rhwng pump a saith mil o galorïau y dydd ac mae'r olew yn rhoi llawer o galorïau am ychydig iawn o bwysau! Paratoadau? Bu Bryan yn paratoi wrth seiclo i'w waith yn Abertawe, tynnu'r sled ar hyd traeth Cefn Sidan ac ar fynyddoedd Eryri. Peryglon? Mae'r ardal yn gynefin i 80% o eirth gwyn y byd, ond gan taw'r haf ydyw nawr y mae digon o forloi ar yr iâ! Bydd pedair stop ar y ffordd ac mae awyrennau a hofrenyddion wrth law pe bai problemau. Wel, pob lwc i Bryan! Gobeithio cawn lun arall ohono a hanes yr antur nes ymlaen. John Davies.
|