"Sioned, cer i nol dy siwmper!" bloeddiodd mam. "Iawn, mam," atebais yn ufudd.
Cerddais yn araf tuag at y cwpwrdd dillad, agor y drws a syllu i mewn. Roedd mor dywyll â bol buwch. Gwelais y siwmper yn llechu yng nghefn y cwpwrdd. Dringais i mewn i geisio gafael ynddi. Yn sydyn teimlais fy nhroed yn graddol lithro ac mewn chwinciad syrthiais yn bendramwnwgl i ddyfnder twll enfawr a glanio wyneb i waered yn sypyn ar y llawr.
Ble'r own i? Dim syniad! Er i mi gael llond bol o ofn, allwn i ddim peidio teimlo cyffro hefyd. Roedd hwn yn beth eithaf naturiol i mi achos rwy'n berson anturus fy natur. Mae gen i wallt melyn fel yr haul ar ddiwrnod o haf a llygaid glas dwfn fel glesni'r môr. Rwy'n hoff iawn o siarad (gormod, medd mam) a rwy'n tueddu bod braidd yn fusneslyd.
Sylweddolais fy mod mewn bin sbwriel achos roedd y drewdod o'm hamgylch yn waeth na phâr o sanau rhywun digartref. Wedi codi clawr du'r bin sbwriel syllais i mewn yn wyliadwrus. Dringais allan ohono ac edrych o gwmpas. Er fod popeth yn edrych yn naturiol gyffredin, doedd dim syniad gen i ble'r oeddwn. Cerddodd plismon mawr, cryf ling di long tuag ataf yn chwibanu Jac y Do'n hamddenol.
"Esgusodwch fi" dywedais yn gwrtais. "A fyddech mor garedig a dweud wrthyf ble rydw i".
Tynnwyd fy sylw gan dŷ cyffredin tu ôl i mi. Sgleiniai ei ddrws yn wyrdd fel dail y dderwen yn y Gwanwyn. Rhedais i gyfeiriad y tŷ^ ac agor ei ddrws yn araf. Cripiais i mewn mor dawel ofalus â llygoden yn chwilota am fwyd. Yn ffodus doedd neb yno ar y pryd, ond fe glywn lais rhywun ar y ffôn. Swniai' n ofnadwy o grac ac yn anfodlon iawn nad oedd yn cael ei ffordd ei hun. Cripiais i mewn yn llechwraidd fel lleidr cyfrwys. Gallwn weld llawer o gardiau pen blwydd yn dweud "Pen blwydd hapus, Sioned" arnyn nhw. Cofiais mai diwrnod fy mhen blwydd oedd hi ac yna mewn braw sylweddolais pwy oedd y person hunanol, câs ar y ffôn! Fi ! Syllais yn syn wrth weld fy hun yn 30 mlwydd oed.
Roedd gen i wallt brown fel siocled blasus, ond roedd fy mhersonoliaeth wedi newid hefyd! Allwn i ddim credu'r peth. Person annymunol, pwdlyd, hunanol a chas oedd o'm blaen i! Gwyliais fy hun yn taflu'r ffôn tuag at fy ngŵr mewn dicter gwyllt a sylweddolais fod yn rhaid i mi newid fy ymddygiad a gorau po gyntaf. Dilynais fy hun o amgylch y tŷ^ yn gweld, gyda chywilydd, yr holl bethau cas oedd yn rhaid i mi newid os oeddwn am gadw'r bobl oedd yn annwyl i mi!
Ar ôl i mi ddarganfod yr holl bethau diflas yma amdanaf fy hun, teimlais fy hun yn sydyn yn cael fy sugno fel darn o luwch i'r hwfr, yn ôl i'r bin sbwriel, i fyny'r twll ac i mewn i'r cwpwrdd dillad anniben. Dringais allan yn wên o glust i glust. Dyna beth oedd antur!
Wrth eistedd ar y gwely meddyliais am yr hyn fyddai wedi digwydd petawn i heb gwympo i mewn i'r twll a pha mor lwcus y bues i! Er mod i wedi blino'n lân bu'r cyfan yn werth chweil oherwydd roedd yr antur yma'n mynd i newid fy mywyd am byth a diolch am hynny!
"Iawn, mam," atebais gan wisgo'm siwmper amdanaf yn ddiolchgar. Bu hon yn antur ffantastig ac yn wers werthfawr i mi!
Mae cerdd fuddugol Ioan, enillydd Y Goron yn rhifyn Mawrth 2006 o'r Glo Mân.
|