Chwe deg a chwech o flynyddoedd yn ôl cyrhaeddodd Brian Llandybie yn grwt wyth mlwydd oed, un o filoedd o ifaciwîs ddaeth i Gymru yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Bu' n byw yn Heol Glynhir am dair blynedd gyda theulu'r diweddar Gwilym a Gwyneth Stephens. Fel profiadau cannoedd o blant, un o'r siocs mwyaf, heblaw am y traddodiadau a'r diwylliant, oedd yr iaith ryfedd o wahanol. Mae Brian yn cyfaddef bod ei gefndir dosbarth canol, a symud i fyw gyda theulu glowr wedi gwneud yr ysgytwad hyd yn oed yn fwy, ond nid yw erioed wedi anghofio'r croeso cynnes, Cristnogol gafodd ar yr aelwyd hon.
Diwrnod pwysicaf yr wythnos oedd y Sul, - cwrdd fore a nos a'r Ysgol Sul yn y prynhawn. Er bod y gwasanaethau yn uniaith Gymraeg, er mwyn Brian, yr iaith fain oedd iaith y dosbarth Ysgol Sul. Mr. Davies, Waunfarlais oedd yr athro, a ffrindiau Brian yn y dosbarth oedd Geraint Stephens, mab Gwilym a Gwyneth, a Dilwyn sy'n dal i fyw yn Heol Waunfarlais. Ni chollodd y teulu un gwasanaeth nac un Ysgol Sul yn ystod y tair blynedd.
Dyma rai o'r cyferbyniadau sy'n aros yng nghof Brian. Adeg y Nadolig a diwrnodau pen blwydd byddai'n cael pentwr o anrhegion, ond oren a llyfr Cymraeg fel Beibl neu lyfr emynau fyddai Geraint yn cael. Doedd y tÅ· ddim yn cael ei addurno a byddai'r flwyddyn newydd yn ddathliad pwysicach a mwy cyffrous, gyda'r plant yn cerdded o dÅ· i dÅ· yn canu a chasglu Calennig. Un o uchafbwyntiau'r wythnos oedd prynu gwerth ceiniog o "chips" a'u bwyta mewn papur tu allan i'r siop, wedi'u boddi mewn halen a finegr!
Hoffai hefyd ymweld â'r crydd gan eistedd o amgylch y stof yn gwrando ar storïau'r crydd, yn siarad gyda llawn ceg o hoelion wrth drwsio esgidiau trwm y glowyr.
Brian oedd yr unig ifaciwi arhosodd gyda'r un teulu am dair blynedd. Un o'r cwestiynau mae plant a ffrindiau Brian yn gofyn iddo yw a oedd yr ymraniad oddi wrth ei deulu wedi gadael creithiau emosiynol neu ysbrydol arno. Efallai ei fod yw ei ateb, ond mae'n cyfaddef mai dim ond daioni a brofodd yn Llandybie, ac ni all byth fynegi maint ei ddyled i deulu Gwilym Stephens a thrigolion Llandybie.
Ar ei ymadawiad â'r pentref yn 1943 cafodd rodd o Feibl sydd yn ei feddiant o hyd. "Presented to Brian Hearn by Seion Sunday School on his departure after his evacuation to the village of Llandebie, Carmarthenshire, July 20th 1943".
Gyrfa fel gwyddonydd fu hanes gyrfa Brian, yn crwydro ar draws y byd, - yn Affrica ac America. Yn Awstralia mae'n byw ar hyn o bryd, ond yn amlwg mae Llandybie wedi gadael argraff fawr arno.
|