Cawsom noson o gwis gan Mr. Edwyn Williams, ysgrifennydd Glo Mân. Roedd tua deuddeg tîm yn cystadlu'n frwd.
Roedd yn noson hynod lwyddiannus gyda'r timoedd yn ceisio adnabod lluniau o Gymru, enwogion, lleisiau ar dâp a phrisio "antiques" ymysg pethau eraill.
Wedi cystadlu agos dros ben buddugwyr y noson oedd tîm W.R. W. o Frynaman. Yn y llun, gwelir y teulu Hopkin sef Keith, y tad, Sarah, y fam, ac Emyr, y mab, (capten y tîm). Yn eu cynorthwyo fel pedwerydd aelod o'r tîm roedd Mel Morgans.
Yn y llun hefyd mae Tom Davis, cadeirydd Pwyllgor Gwaith yr Ei¬steddfod, a Peter Harries un o bedwar is-gadeirydd.
Am fwy am wythnos gyhoeddi Eisteddfod yr Urdd sir Gaerfyrddin 2007 - cliciwch yma.
|