Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Glo Mân
Bethan Mair gyda Arwel Rocet Jones adeg lansio Cerddi'r Byd O Rydaman i'r byd i gyd
Hydref 2005
'Trafaeliais y byd, ei led a'i hyd', meddai'r hen gân werin, ac mae blodeugerdd o farddoniaeth gan Wasg Gomer yn caniatau i chi wneud hynny heb adael cynhesrwydd eich lolfa.

Un o drigolion Rhydaman, Bethan Mair, sy'n gweithio fel golygydd gyda Gwasg Gomer yn Llandysul, yw cyd-olygydd Cerddi'r Byd, un o gyfrolau'r gyfres Cerddi Fan Hyn. Mae'r gyfres ddeniadol a difyr hon yn casglu at ei gilydd gant o gerddi am ardal arbennig, ei phobl a'i hanes, o dan ofal golygydd gwadd. Bethan hefyd fu'n gyfrifol am y gyfrol ar sir Gaerfyrddin, Cerddi Sir Gâr, a gyhoeddwyd yn 2004.

Basem i gyd yn cytuno bod digon o waith i'w wneud i gasglu cerddi am un sir yng Nghymru at ei gilydd, ond mae meddwl am y byd i gyd yn dipyn o gontract! 'Wel,' meddai Bethan, 'roeddwn wedi cael blas ar helpu R. Arwel Jones, neu Rocet fel y mae'n cael ei alw, i gyfarwyddo'r casglwyr cyntaf yn y gyfres - Mererid Hopwood yn Sir Benfro, Lyn Ebenezer yng Ngheredigion, Heini Gruffydd yn ardal Abertawe a'r Cwm, felly pan awgrymodd e y baswn i'n gallu gwneud Sir Gâr ro'n i wrth fy modd.

Rhywun arall awgrymodd y bydde hi'n hwyl gwneud Lloegr, ac fe feddyliodd y ddau ohonom - pam stopio fan'na? Beth am weddill y byd? Roedd arnom ofn gofyn i neb arall ymgymryd â'r fath dasg, felly fe aeth y ddau ohonom at ein gilydd i ddarllen ac i geisio dethol cant o gerddi am bob man OND Cymru!'

Un o ychydig amodau'r gyfres yw bod dim mwy nag 8 cerdd am un lle na chan yr un bardd. Does dim ots o ble mae'r bardd yn dod, ond bod pwnc ei gerdd am y lle arbennig. "Y peth diddorol am gerddi'r byd," meddai Bethan, "oedd taw cerddi am hiraeth oedd cymaint ohonyn nhw. Er bod llawer o'r beirdd hyn yn cyrraedd pen draw'r byd, cerddi am Gymru oedden nhw i gyd yn eu hanfod o hyd"

"Mae rhai o'n beirdd wedi teithio mwy na'i gilydd - T. H. Parry-Williams, er enghraifft, a Twm Morys - ond roedd un anhawster wrth fynd ati. 'Roedd lot o gerddi am Lydaw ac Iwerddon, am America a Phatagonia, dywedwch, ond dim llawer am yr Alban na Rwsia nac Awstralia er enghraifft, felly roedd hi'n anodd cael digon o amrywiaeth, a chofio'r rheol am ddim mwy nag wyth gerdd am un lle," meddai Bethan.

"Ond fe ddaethon ni i ben, ac mae'r gyfrol wedi bod yn boblogaidd. Yn wahanol i'r rhai eraill yn y gyfres, does dim un ardal yn arbennig y bydd hon yn apelio ati'n fwy, ond gobeithio y bydd rhywbeth ynddi at ddant pawb."

Mae'r gyfrol ar werth yn eich siop lyfrau leol neu ar y we o www.gomer.co.uk.

Mae cyfle i ennill copi o'r llyfr mewn cystadleuaeth ym rhifyn Hydref 2005 o Glo Mân.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

Sylw:




Mae'r Â鶹Éç yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý