Merch Meinir Lewis o Myddynfych yw Elin, ac wyres Mrs Megan Price a'r diweddar Gwyn Price o Landybie. Dyma beth o hanes a chefndir Elin. Llongyfarchiadau mawr iddi ar ei llwyddiant a dymunwn y gorau iddi yn y dyfodol. Mae Elin Wyn Lewis, 23 oed yn enedigol o Sir Gaerfyrddin ac ar hyn o bryd mae'n gwireddu ei breuddwyd ar lwyfan y West End. Ar ôl graddio yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, penderfynodd Elin symud i Lundain ac astudio cwrs Sioeau Cerdd. Wedi cwblhau ei chwrs ym mis Gorffennaf 2003, cafodd gynnig y brif ran, 'Mabel', yn y sioe gerdd 'Pirates of Penzance', sydd nawr yn Theatr y Savoy ar y Strand. Mae Elin wedi derbyn canmoliaeth uchel yn y Wasg gydag un papur yn dweud -"The evening's most heroic performances came from Hadley Fraser as Frederic, and Elin Wyn Lewis as Mabel, both young, but both capable singers -Lewis hits some spectacular high notes- and both actors are plainly born for the musical stage! " Mae Elin yn edrych ymlaen i'w gyrfa ym myd y sioeau Cerdd. Ei gobaith yw chwarae rhan Christine yn 'Phantom of the Opera'. Mae'n bendant fod ei llwyddiant o ganlyniad i'w phrofiad o berfformio ar lwyfannau'r Urdd a'r Genedlaethol yn unigol ac fel aelod o Gôr Ysgol Gerdd Ceredigion.
|