I lawer sydd yn awr o oedran arbennig yr oedd gweld Daleks a'u sgrech "Ex-terminate! Ex-terminate! You will be Exterminated!" neu "Difod-wch!difodwch! fe gewch eich difodi!" yn ddigon i achosi dyn i hedfan tu ôl i'r soffa. Dechreuodd Doctor Who a'i anturiaethau bron ddeugain mlynedd yn ôl a chyn bo hir (nos Sadwrn Mawrth 26) bydd cyfres newydd yn dechrau ar Â鶹Éç1. Dywedir bod y setiau a'r C.G.I (graffics cyfrifiadurol) yn mynd i fod yn agoriad llygad. Edrychir ymlaen yn eiddgar am y gyfres. Ond beth yw cysylltiad Doctor Who a'r Daleks â Llandybie?Arolygwr a Chyfarwyddwr Celf y gyfres newydd yw Stephen Nicholas, Llandybie (mab Chris a Judith Nicholas, Stryd Fawr.) Ffilmiwyd llawer o'r gyfres mewn lleoliadau yn Ne Cymru, yn Abertawe, Casnewydd a Threfynwy. Gyda Edward Thomas, cynhyrchydd Dylunio, cyfrifoldeb Stephen yw goruchwylio dros 300 o bobl mewn nifer o adrannau e.e celf, dylunio graffics, cynllunwyr ac adeiladwyr y setiau a'r props. Gwaith Stephen yn ddyddiol yw paratoi y setiau, cydraddoli gwneuthuriad y setiau, cydweithio gyda'r adrannau i sicrhau bod y goleuadau, y sŵn, effeithiau arbennig, graffics cyfrifiadurol, y gwisgoedd a'r coluro i gyd yn iawn. Mae'n gweithio o fore tan nos. Felly, Stephen yw un o ddynion allweddol y cynhyrchiad. Dechreuodd ei yrfa fel saer wrth gynllunio ac adeiladu set Heno yn stiwdio Agenda yn Llanelli. Yna aeth ymlaen i weithio ar nifer o ffilmiau a dramâu teledu yn Ne Affrica, Rwmania ac Ynys Manaw - ond heb os nac oni bai dyma'r sialens a'r cyfrifoldeb mwyaf i Stephen. Llongyfarchiadau a phob lwc iddo. Cofiwch wylio'r gyfres! Cynhyrchydd/ Ysgrifennydd y gyfres yw Russel T. Davies (o Abertawe yn wreiddiol) a Julie Gardner (Pennaeth Drama Â鶹Éç Cymru.) Mi fydd y gyfres newydd o Doctor Who yn cychwyn ar Â鶹Éç1 ar nos Sadwrn, Mawrth 26 am 7pm.
|