Owain - hync newydd Ffeil!
Gyferbyn â chartref Alex, mae 'na ddyn ifanc o'r enw Owain Wyn Evans yn byw, a oedd hefyd yn ddisgybl yn Ysgol Dyffryn Aman. Mae e bellach wedi gadael ers blwyddyn ac erbyn hyn yn gyfarwydd iawn â'r M4, gan ei fod yn gweithio yng Nghaerdydd. Swydd newydd, a swydd gyntaf Owain yw gohebu ar y rhaglen newyddion i bobol ifanc, Ffeil, sy'n cael ei darlledu ar S4C, ac wrth siarad ag ef yn ei gartref, mae'n amlwg ei fod wrth ei fodd.
"Fi wastad wedi moy'n gweithio ar y teledu," meddai Owain, "ond o'n i byth yn meddwl bydden i'n cael y cyfle i wneud e mor ifanc. Fi ffili credu fe, fi'n mwynhau e gymaint, mae e fel byw breuddwyd," meddai.
Prin ddeufis sydd ers i Owain ddechrau yn ei swydd newydd ac mae eisoes wedi dechrau cyflwyno eitemau newyddion o bob cwr o Gymru.
Un o hyncs mwya' Cymru
Hefyd, nid yn unig ei fod e'n wyneb newydd ar y bocs, ond mae wedi cael ei enwi'n un o fois mwyaf golygus Cymru. Welsoch chi dudalen ganol y papur dydd Sul Wales on Sunday ar Fawrth yr ail? Roedd wyneb Owain yno yn rhif 31.
"O'n i'n eitha chuffed bo fi uwchben bois One True Voice!" meddai Owain wrth chwerthin. "O'n nhw wedi ffonio fi yn yr wythnos i ddweud bo fi yn y 50 uchaf, ond doedd dim syniad da fi pa rif o'n i. Fi ffili credu fe, mae e'n bach o sbri ond yw e!" Ferched, cadwch lygad ar y boi ma!
Enwog o ddyffryn Aman i ddyffryn Silicon
O ddau wyneb ifanc, newydd, i un hynach a phrofiadol. Ydych chi wedi gweld camp ddiweddara'r hen stêjar o Rydaman, John Rhys Davies ar y sgrîn fawr? Lord of the Rings - The Two Towers yw un o ffilmiau mwya'r sinema eleni, ac mae'r dyn o Rydaman yn actio rhan y corach Gimli, ynddi.
Ydyn, ry'n ni wedi gallu brolio bod un o fois ein cwm ni wedi serennu mewn sawl ffilm fawr erbyn hyn, gyda Raiders of the Lost Ark ac Indiana Jones and the Last Crusade yn ddwy ffefryn.
O ganlyniad, mae ei enw'n adabyddus o Ddyffryn Aman i Ddyffryn Silicon, a'i hanes wedi cyrraedd pedwar ban byd. Ond ar ôl chwilio am wybodaeth amdano, dwi wedi dod o hyd i ambell beth diddorol, heblaw am y ffaith bod ei fam yn dod o Rydaman, a'i fod e'n casglu hen geir a bod ganddo drwydded hedfan.
Mae John Rhys-Davies yn 6 troedfedd o daldra, felly gan fod y cymeriad, Gimli, yr oedd yn ei actio, yn gorach 4'2", roedd rhaid iddo wneud y rhan ar ei ben-gliniau.
Roedd y dillad roedd e'n eu gwisgo yn The Two Towers yn pwyso dros 40 kg (er mai dim ond corach oedd e!) ac roedd yn rhaid i ddau berson ei helpu i'w gwisgo.
Byddai hi'n cymryd pump awr iddo gael ei goluro ar gyfer TheTwo Towers.
Tra'n gweithio ar ei ffilm ddiweddaraf LaFemme Muskateer yn Croatia, fe syrthiodd wal 12 troedfedd o uchder arno. 0 ganlyniad, fe dorrodd ei fraich, a bu'n rhaid i 30 o ddynion symud y cerrig a oedd wedi cwympo er mwyn ei ryddhau.
Bu'n rhaid iddo fynd i noson agoriadol The Two Towers mewn sling!
Cerys Bowen