Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Glo Mân
Sioe Stryd Gwyl Ddewi Menter Bro Dinefwr
Ebrill 2008
Digwyddiadau'r Fenter ym mis Mawrth.

Ffair Hen Bethau
Yn neuadd y Pensiynwyr ar brynhawn ddydd Gwener yr 22ain o Chwefror cawsom y pleser o groesawu Dr. Felix Aubell ar gyfer y ffair hen bethau. Nod y prynhawn oedd i gael y cyhoedd i ddod mewn â'u hen bethau er mwyn cael eu prisio ac yna cael sgwrs a gwybodaeth ynglŷn â hen bethau drwy gyfrwng y Gymraeg. Braf oedd cael gweld digwyddiad yr ydym i gyd mor gyfarwydd o'i weld yn Saesneg ar y teledu (megis rhaglenni fel yr Antiques Roadshow) yn digwydd yn lleol trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg.

Can i Gymru
Fe aeth llond bws o ardal Llandeilo a Rhydaman i'r Afan Lido ym Mhort Talbot nos Wener Chwefror 29ain ar gyfer cystadleuaeth Cân i Gymru. Cafwyd noson hwyliog iawn a braf oedd mynd i gefnogi Llew Davies swyddog ieuenctid y Fenter a oedd yn cystadlu gyda'r grŵp o Rydaman Eskimo.

Sioe Stryd Gŵyl Ddewi
Ar ddydd Sadwrn Mawrth 1af cynhaliwyd sioe stryd yn stryd y Cei, Rhydaman i ddathlu Gŵyl Ddewi. Cafodd y diwrnod ei drefnu gan y Fenter, Cynllun Gweithredu Iaith Rhydaman a TWF. Daeth Jac y Do, Dawnswyr Penrhyd a disgyblion Ysgol Dyffryn Aman i ddiddanu'r gynulleidfa a braf oedd gweld gymaint o bobl wedi dod i gefnogi.

Twrnamaint Chwaraeon
Cynhaliwyd twrnamaint Criced Cyflym blynyddol y Fenter ar ddydd Mercher Mawrth 12fed yn neuadd Ysgol y Bedol, Garnant. Fe gymerodd chwech ysgol gynradd yn yr ardal rhan yn y twrnamaint sef Ysgol Iau Rhydaman, Saron, Brynaman, Blaenau, Llandybie a Ysgol y Bedol. Enillwyr blwyddyn 3 a 4 oedd Ysgol Brynaman a enillwyr blwyddyn 5 a 6. Dyma luniau o'r timau buddugol:

Hoffem ddiolch i'r chwe ysgol a gymerodd rhan ac i Ysgol y Bedol am ei cydweithrediad hwylus ar y diwrnod.

Gwaith Ieuenctid
Yn ystod y misoedd diwethaf mae Llew Davies, Swyddog Ieuenctid Menter Bro Dinefwr, wedi bod yn gweithio gyda chanolfan Ieuenctid y `Streets' yn Rhydaman. Mae'r 'Streets' yn ganolbwynt i lawer o fandiau a cherddorion ifanc, ac mae Llew wedi bod yn ceisio annog rhain i ysgrifennu eu caneuon yn yr faith Gymraeg a cheisio dangos iddynt fod modd i'r faith Gymraeg fod yn help iddynt wrth drio cael cydnabyddiaeth am eu cerddoriaeth. Yn wir mae hyn wedi golygu fod y band BSS a'r cerddor Tom Hamer, y ddau yn deillio o ardal Rhydaman, yn perfformio tair cân Gymraeg yr un tra'n cystadlu ym Mrwydyr Y Bandiau ar Nos Fercher yr l9ed o Fawrth yng Nghlwb Nos Y Gwernllwyn.

Nofio
Bydd y Fenter yn cyd-weithio gyda TWF i drefnu sesiynau nofio i rieni a babanod yng Nghanolfan Hamdden Dyffryn Aman. Bydd y sesiwn cyntaf ar 27 Mawrth am 12, bydd y sesiwn cyntaf am ddim. Bydd cyfle i gymdeithasu dros goffi ar ôl y sesiwn. Am rhagor o fanylion cysylltwch â Sarah Jones yn swyddfa'r Fenter ar 01269 596622.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý