Tipyn o fenter oedd rhoi ugain mlynedd yn ôl ar lwyfan heddiw. Mae adrodd ein hanes ein hunain yn bwysig iawn i ni. Teimlwn bod rhai pethau y mae yn rhaid i ni eu dweud wrth eraill, ac rydym ni'n hunain yn teimlo yn well wedi eu rhannu. Pethau yw'r rheini sy'n cyffwrdd â'n hemosiwn. Cyflwynwyd Ugain Mlynedd Mlaen dair gwaith yn Theatr y Glowyr ar Fawrth 11 a'r 12fed. Edrych yn ôl ar Ddyffryn Aman Roedd ugain mlynedd yn ôl yn Nyffryn Aman yn amser anodd iawn. Roedd y streic yn ei hanterth, a theuluoedd mewn caledi mawr. Safai eraill ar yr ochr arall. Roedd llawer o densiynau rhwng pobl â'i gilydd. Weithiau o fewn yr un teulu. Roedd dweud y stori honno, ei hwynebu yn sgwâr, yn fenter. Yn bwysig hefyd. Cafwyd pobl yr ardal ar y llwyfan i adrodd eu storïau eu hunain. Rhoddwyd pob oedran ar y llwyfan. Bu llefaru, actio, canu, chwerthin; dagrau yn agos hefyd. Ein stori ni oedd hon. Diolch calon i Emily Hinshelwood a Llio Silyn a phawb arall oedd ynghlwm â'r sioe am gyflwyniad rhagorol.
|