Ar y dechrau cyflogwyd mwyafrif aelodau'r côr gan gwmnïau calchfaen lleol neu'r pyllau glo. Erbyn hyn mae aelodau'r côr yn cynrychioli pob proffesiwn, yn cynnwys cyfrifyddion, gweithwyr banc, peirianyddion, swyddogion yr heddlu, athrawon, ac yn y blaen. Mae'r côr wedi bod yn llwyddiannus mewn cystadlaethau pwysig ledled Cymru a'r Deyrnas Unedig, ac wedi ennill gwobr gyntaf sawl gwaith. Mae Côr Meibion Llandybie wedi cael llwyddiant yn gyson yn yr Eisteddfod Genedlaethol, Eisteddfod Aberteifi, Eisteddfod y Glowyr, Porthcawl ac Eisteddfod Pontrhydfendigaid. Ers ei sefydlu mae'r côr wedi codi arian i elusennau yn gyson ac erbyn hyn mae'r cyfanswm yn gannoedd o filoedd o bunnoedd. Er i'r côr fod mewn bodolaeth am gyfnod hir, dim ond chwech o gyfarwyddwyr cerdd fu'n ei arwain. Roedd y tri cyfarwyddwr cyntaf yn aelodau o'r un teulu, sef Mr Evan Thomas, yr arweinydd, a sefydlodd y côr, a'i ddau fab, Arthur Thomas gyntaf ac yna Mr Curwen Thomas. Bu farw Mr Curwen Thomas ym 1973, a daeth Mr Ieuan Anthony i gymryd ei le. Bu'n arweinydd tan 1976 ac yna am gyfnod o ddwy flynedd ar bymtheg bu Mrs Indeg Thomas yn arweinydd. Yn 1993 daeth Mr David B. Jones yn arweinydd.
|