Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Glo Mân
Agor Canolfan Gymunedol
Tachwedd 2003
Ar fore Llun, 27 Hydref 2003, fe agorodd Canolfan Gymunedol hir ddisgwyliedig Brynaman ei drysau i'r cyhoedd.

Bu pobl y pentref yn aros yn eiddgar ers hydoedd i weld beth yn union oedd wedi bod yn mynd ymlaen tu mewn i furiau'r hen ysgol lle cafodd llawer iawn ohonyn nhw eu cyflwyniad cyntaf i fyd addysg ac, yn ôl y rhai a ddaeth yno yn ystod yr wythnos agoriadol, roedd hi'n anodd credu bod y fath drawsnewidiad yn bosibl.

Lle'r oedd pum ystafell ddosbarth, ystafell y brifathrawes/athrawon, ystafelloedd dillad/toiledau a choridor llydan o'r blaen mae yna nawr Ganolfan feddygol, lyfrgell, dwy ystafell aml bwrpas, caffe a thoiledau moethus. Lle'r oedd ty'r boiler, ac mewn estyniad allan i ran o'r iard, mae derbynfa eang a swyddfa. Mae cwmni TRJ yn parhau â'r gwaith ar y maes parcio i staff a'r anabl sydd yn y gweddill o'r hen iard a phan gwblheir hwnnw fe ddaw'r Agoriad Swyddogol.

Fe gafodd y pentrefwyr wasanaeth ffyddlon yn yr hen lyfrgell a'r feddygfa ar Hewl Stesion dros y blynyddoedd ond nawr, gyda'r Ganolfan hon - a wnaiff gynnig gwasanaeth bendigedig i'r dyfodol - fe gamwyd i mewn i oes a mileniwm newydd. Mae'n wirioneddol werth ei gweld.

Ond, er bod y Ganolfan wedi agor - y llyfrgell, y dosbarthiadau, Cylch Ti a Fi a'r caffe y cwestiwn mawr ar wefusau pawb yw "Pryd mae'r syrjeri'n mynd i agor?". Yn anffodus 'does dim ateb ar gael i'r cwestiwn hwnnw hyd yn hyn. Mae un peth yn siwr - mae pobl Brynaman wedi hen laru ar orfod teithio i'r Waun neu'r Garnant ers i Dr. Rahmann ymddeol ac yn dra awyddus i allu cael gwasanaeth meddygol yn eu pentref eu hunain unwaith eto. Brysied y dydd.

Bob dydd Mercher bydd Mrs Susan Crossman Jones yn cynnal dosbarthiadau Arlunio 10 - 12 y bore a Mrs Bethan Hogan a dosbarth Cyfrifiaduron i ddechreuwyr o 1 - 3 o'r gloch y prynhawn. Bwriedir cynnal dosbarth Cymraeg i Ddysgwyr hefyd. Os bydd gyda chi ddiddordeb mewn dod i un o'r dosbarthiadau yma cysylltwch ag Adrienne Bedington ar 823162.

Oriau agor y llyfrgell fydd: -
Llun 9.30 - 12.00 a 3.00 - 5.00
Mercher : 10.00 - 12.00 a 3.00 - 5.00
Iau : 5.30 - 7.00 yr hwyr.
Cofiwch alw i mewn i'n gweld.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý