Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Glo Mân
Un o ffenestri'r llyfrgell Ffenestri Llyfrgell Rhydaman
Mai 2002
Weloch chi'r ffenestri newydd yn Llyfrgell Rhydaman? Gosodwyd nhw yno yn ystod mis Mawrth.

Ffenestri tu mewn i ffenestri ydyn nhw a gwelir pedwar darn o lenyddiaeth arnyn nhw.

Daw un darn o Culhwch ac Olwen (Llyfr Gwyn Rhydderch, o lawysgrifau cynnar tua 1350)

1. Ymrodi y gerdet ohonaw ynteu, hyd at Mynyd Amanw, ac yna y llas banw o'e uoch et.

Dyma'r cyfeiriad cyntaf at ardal Dyffryn Aman mewn llenyddiaeth. Mae'n digwydd yn un o ddeuddeg chwedl Y Mabinogion, a gasglwyd yn ystod y 14eg ganrif.

Mae Culhwch ac Olwen yn un o'r chwedlau hynaf a mwyaf cyntefig yn y casgliad. Mae'n sôn am ymgais Culhwch i ennill llaw Olwen, merch y cawr Ysbaddaden Bencawr.

Gosododd y cawr nifer o dasgau i Culhwch eu cyflawni, ac un ohonyn nhw oedd sicrhau'r grib a'r gwellau a oedd rhwng dwy glust y Twrch Trwyth er mwyn trin gwallt Ysbaddaden Bencawr ar gyfer neithior merch y cawr.

Helir y Twrch Trwyth ar draws De Cymru, ac fe gyfeirir yma at ladd un o berchyll y Twrch ar Fynydd Amanw.

2. Rwy'n gweld o bell y dydd yn dod
Bydd pob cyfandir is y rhod
Yn eiddo Iesu Mawr.
A holl ynysoedd maith y môr
Yn cyd-ddyrchafu mawl yr Iôr
Dros wyneb daear lawr.

Geiriau adnabyddus o emyn Watcyn Wyn, neu Watkin Hezeciah Williams (1844-1905) yn fardd, yn emynydd ac yn athro, a anwyd ym Mrynaman.

Dechreuodd weithio yn y lofa yn wyth mlwydd oed, cyn mynd i Goleg y Presbyteriaid yng Nghaerfyrddin er mwyn mynd yn weinidog gyda'r Annibynwyr.

Ni chymerodd ofal eglwys ond daeth yn enwog fel Prifathro Ysgol y Gwynfryn yn Rhydaman, athrofa i baratoi bechgyn ifanc ar gyfer y weinidogaeth.

Enillodd y Goron ym 1881 ar Gadair y 1885 yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

3. Os ydyw o dostur ei galon
Yn cofio aderyn y to,
Anghofiodd yn llwyr am dreialon
'Carcharor y glo'

Ganwyd awdur y trydydd darn sef Amanwy, David Rees Griffiths (1882-1953), yn Y Betws yn un o wyth o blant i'r gof lleol.

Cefnodd Amanwy ar yr ysgol pan oedd yn 12 oed ac aeth i weithio i Waith Ucha'r Betws.

Ar ôl dwy flynedd yn Sir Fynwy daeth yn ôl i weithio gyda'i frawd Gwilym. Llosgwyd y ddau mewn damwain ddifrifol yng nglofa Pantyffynnon ym 1907 a bu farw Gwilym.

Arbedwyd Amanwy a throdd ei olygon at lenyddiaeth o dan hyfforddiant Gwili ei athro yn Ysgol y Gwynfryn.

Bu'n ofalwr yn Ysgol Ramadeg newydd Rhydaman ym 1924. Bu'n aelod ffyddlon ac yn ddiacon yng nghapel Gellimanwydd. Roedd yn frawd i'r Aelod Seneddol Jim Griffiths.

Mae'r darn sydd yn y ffenest yn dod o bryddest a gyfansoddodd ar gyfer y radio ym 1953.

4. Y darn olaf a welir yw darn o Lygad Llwchwr

O geg y graig,
O enau'r garreg,
Daw'r llafar hwn.

Seiniau meddwl yn murmur
Ar dafod y dwr
Brawddegau, a'u cyflythreniad disglair.

Yn diferu'n gythryblus fyw.
Yn ddafnau mân
Yn niwl enfys
O lythrennau adnodau
Yn hen, hen ganiadau.

Darn o waith Einir Jones, bardd cyfoes o fri, a anwyd yn Nhraeth Coch, Ynys Môn, ond wedi bod yn byw yn Rhydaman ers 25 mlynedd.

Mae'n athrawes yn Ysgol Gyfun Dyffryn Aman ac enillodd Goron yr Eisteddfod Genedlaethol yn Yr Wyddgrug ym 1991.

Cyhoeddodd bum cyfrol o farddoniaeth Pigo, Crachan, Gwellt Medi, Gweld y Garreg Ateb, Daeth Awst, Daeth Nos (1991) a Rhwng Dau, ar y cyd gydai thad (1998).


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý