Pwy ohonom na fu'n dilyn Lisa ar raglen 'Waw Factor' ac Aled ei brawd ar raglen 'Ar y Bocs', ac yn ennill Gwobr Bryn Terfel yn Eisteddfod Tawe Nedd ac Afan 2003. Rydym yn gwybod am waith Wayne gyda Band Ieuenctid Cwmtawe. Yr haf yma graddiodd Wayne mewn Cerddoriaeth a hynny tra oedd yn gweithio, tipyn o gamp a dweud y lleiaf, a Lisa yn graddio mewn Drama ac Astudiaethau Theatr. Roedd hi'n flwyddyn bwysig i Aled hefyd. Cafodd dair A yn ei ganlyniadau Lefel A mewn Saesneg Cerddoriaeth a Drama (ac yn un o ddau a gafodd farciau llawn yn yr adran Drama Ymarferol). Byddwn yn ei weld ar S4c mewn cyfres newydd ar ôl y Nadolig. Mae Wayne yn gweithio bob dydd, yn aelod o Fand Tref Rhydaman, yn arwain Band Ieuenctid Cwmtawe, ac yn hyfforddi band ifanc, ar ben hyn mae'n bwriadu gwneud tystysgrif ôl radd. Mae'n amlwg bod ei amserlen e'n orlawn! Mae Wayne am ddweud "Oni bai am Linda (ei wraig) ni fyddai r'un ohonynt wedi gallu gwneud dim, hi sydd yn cadw pethau i fynd, ac yn gefnogol i ni gyd." Pob dymuniad da iddynt i'r dyfodol.
|